Gwaith Alun - John Blackwell

Gwaith Alun

Transcribed from the 1909 Ab Owen edition by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk
Ganwyd John Blackwell ( Alun ) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o Langwm oedd ei fam—gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i’r seiat a’r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau â’i fachgen.
Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai’n aml i Gaer i chwilio’r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd ei hoffter.
Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a’r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda’i awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda’i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.
Yn 1824 aeth i’r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda’r ficer, y Parch. Thomas Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach, cywreiniach. Clerigwyr pobtu’r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg.
Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a’i fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.
Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.

John Blackwell
О книге

Язык

Английский

Год издания

2005-02-01

Темы

Welsh poetry -- 19th century

Reload 🗙