I.
Gredyf gwr oed gwas
Gwrhyt am dias
Meirch mwth myngvras
A dan vordwyt megyrwas
Ysgwyt ysgauyn lledan
Ar bedrein mein vuan
Kledyuawr glas glan
Ethy eur aphan
Ny bi ef a vi
Cas e rof a thi
Gwell gwneif a thi
Ar wawt dy uoli
Kynt y waet elawr
Nogyt y neithyawr
Kynt y vwyt y vrein
Noc y argyurein
Ku kyueillt ewein
Kwl y uot a dan vrein
Marth ym pa vro
Llad un mab marro