IX.
Gwyr a aeth gatraeth veduaeth uedwn
Fyryf frwythlawn oed cam nas kymhwyllwn
E am lavnawr coch gorvawr gwrmwn
Dwys dengyn ed emledyn aergwn
Ar deulu brenneych beych barnasswn
Dilyw dyn en vyw nys adawsswn
Kyueillt a golleis diffleis vedwn
Rugyl en emwrthryn rynn riadwn
Ny mennws gwrawl gwadawl chwegrwn
Maban y gian o vaen gwynngwn