XIII.
Gwr a aeth gatraeth gan dyd
Ne llewes ef vedgwyn veinoethyd
Bu truan gyuatcan gyvluyd
E neges ef or drachwres drenghidyd
Ny chryssiws gatraeth
Mawr mor ehelaeth
E aruaeth uch arwyt
Ny bu mor gyffor
O eidyn ysgor
A esgarei oswyd
Tutuwlch hir ech e dir ae dreuyd
Ef lladei Saesson seithuet dyd
Perheit y wrhyt en wrvyd
Ae govein gan e gein gyweithyd
Pan dyvu dutvwch dut nerthyd
Oed gwaetlan gwyaluan vab Kilyd