XXXI.

Gwyr a gryssyasant buant gytneit
Hoedyl vyrryon medwon uch med hidleit
Gosgord mynydawc enwawc en reit
Gwerth eu gwled e ved vu eu heneit
Caradawc a madawc pyll ac yeuan
Gwgawn a gwiawn gwynn a chynvan
Peredur arveu dur gwawr-dur ac aedan
Achubyat eng gawr ysgwydawr angkyman
A chet lledessynt wy lladassan
Neb y eu tymhyr nyt atcorsan