CHWEDL AM YSPRYD.

“Yn mhlwyf Llangeler, yn Sir Gaerfyrddin, Mai 21ain, 1719, y dechreuodd yspryd yr hwn a barhaodd dros hir amser, i daflu ceryg at rhai oedd yn y maes yno. Dydd Iau y Sulgwyn y dechreuwyd dyrnu, oddeutu wyth y boreu, ac y dechreuodd yntau daflu ceryg. Un o’r dyrnwyr yn gyntaf a welodd y gareg yn disgyn ar y llawr dyrnu. Yr ail gareg a ddisgynodd ar glin morwyn y ty, nes ydoedd clais arni; ac yn mhen ychydig llanwasant y llawr dyrnu a’r twyn oddiamgylch, yr hyn a wnaethant wedi hyny. Y dyrnwyr a roisant heibio eu gwaith, ac a aethant i edrych pwy oedd yn eu taflu hwynt, ond ni allasent weled neb.

“Dydd Gwener,—Y forwyn, pan yn yr ardd, a darawyd dair gwaith. Tarawyd amryw o’r plant, nes iddynt fyned allan o’r ty. Daeth llawer yn nghyd i weled y rhyfeddodau hyn, ac yr oedd pawb ag oedd yn dyfod yn cael gweled y ceryg yn disgyn.

“Dydd Sadwrn,—Tarawyd y forwyn ac un o’r dyrnwyr. Yr oedd rhai ceryg yn chwyrnu, ac megys cleisiau ar amryw o honynt. Y ceryg ni welid nes byddent yn disgyn, a phan godid hwynt byddai eu hol ar y llawr, megys pe byddent yno flwyddyn o’r blaen. Daeth pawl mawr yn groes i’r ffenestr, heb neb gweledig yn dyfod ag ef. Rhai ni chredent nes danfon cenadon i weled, ac i gyrchu rhai ceryg adref i’w tai. Cyfodwyd cyff mawr o bren o’r croch i ben y ty, ac a ddisgynodd mewn man arall.

“Dydd Sul,—Daeth llawer iawn yn nghyd i weled, ac amryw o honynt yn tyngu ac yn rhegu, ac yn siarad yn gableddus ac yn ysgafn. Disgynodd ceryg mawrion ar y lloft yn y ty, ond ni welwyd hwynt nes disgynent. Tarawyd bar haiarn allan o’r ffenestr, a phlygwyd un arall fel bach ysdarn; a’r ffenestr a dorwyd yn friwion man. Wedi’r nos daeth ceryg i’r gwelyau, a chloriau’r ffenestri a aethant i’r llofft; a gorfu ar dylwyth y ty gyfodi o’u gwelyau a myned i dy cymydog. Nid oedd ond y ceryg yn llawn yn y ty ac oddiamgylch iddo.

“Nos Fercher,—Llosgwyd yr ysgubor a’r llafur, a llawer o bethau eraill; yr oedd ef bob dydd yn taflu ceryg, ond nid bob awr. Yr oedd weithiau yn taflu mor gynted ag y gellid eu rhifo, a’r rhan fwyaf o honynt yn geryg afon, a rhai o honynt yn chwech pwys neu ragor o bwysau.

“Daeth cymydogion yn nghyd un noswaith i weddio ar Dduw yn y ty, ac ni fu yno fawr o stwr y noson hono. Llawer o bethau yn rhagor a wnaeth efe, ond o’r diwedd efe a ddarfu ac a beidiodd.”

For the benefit of those who are unable to read Welsh, I give the following translation of the above account:—