Gwae! a gar gwydd amryson.

Dar a dyfwys ym meillion,

A chan a’i briw ni bi gronn;

Gwae! wr wrth ei gaseion.

Dar a dyfwys ar dir pen

Gallt, ger ymdonn Mor Hafren

Gwae! wr na bai digon hên.

Dar a dyfwys yngwynnau,

A thwrf a thrin a thrangau;

Gwae! a wyl na bo Angau.