I’r capel cerdd yn gysson iawn,

I’r ysgol gyr ei blant;

Ymwisga ’n hardd y Sabbath,

A’i deulu yr un modd;

Ni fyn ei ladd â gormod gwaith,

A strike ni fyn o’i fodd;

Ni lecha byth tu ol i’r gwrych,

I dalu ei rent a phlwm;

Mae’n llusgo pridd a gwrtaith

I fyny’r llechwedd llwm;