Yn enw Ynys Seiriol,

A’r Gogarth erch ei drwyn;

Y Castell ar y Morfa Hardd,

Bwlch oer Llanberis fwyn;

Yn enw Crog-bont Menai,

Sy’n hongian yn y nen;

Yn enw bedd dy Ferthyr gi

A’r garnedd uwch ei ben,

Yn enw mellt yr Wydfa,

Sy’n euro ei goron fawr.