Transcribed from the 1861 Hughes and Son edition by David Price, ccx074@pglaf.org

A POCKET DICTIONARY, WELSH-ENGLISH.
GEIRIADUR LLOGELL
CYMRAEG A SAESONEG,

wedi ei
ADOLYGU, EI DDIWYGIO, A’I HELAETHU
gan
W. RICHARDS, LL.D.

WREXHAM:

abgraffwyd a chyhoeddwyd gan r. hughes and son

london: simpkin, marshall, and co.

RHAGYMADRODD.

Mae yr awyddfryd cynyddol sydd yn mhlith y Cymry i ymgydnabod yn fwy â’r iaith Saesoneg yn un o arwyddion gobeithiol yr amserau. Am bob un o’n cydgenedl ag oedd yn deall Saesoneg yn nechreuad y ganrif hon, mae yn debyg na fethem wrth ddyweud fod ugeiniau os nad canoedd yn ei deall yn awr. O’r ochor arall, y mae rhifedi mwy nag a feddylid o’r Saeson sy’n ymweled a’n gwlad yn ystod misoedd yr hâf yn gwneuthur ymdrech nid bychan i ddysgu Cymraeg.

Ond mae yn eglur nas gall neb feistroli iaith estronol heb gymorth geiriaduron. Nis gellir dyweud fod y gwahanol Eiriaduron sydd yn awr ar y maes yn rhai ymarferol o herwydd y mae ynddynt filoedd o eiriau nad arferwyd erioed, ac ond odid nad arferir byth; ac y mae hyny, wrth reswm, yn chwyddo y gwaith, nes peri ei fod allan o gyraedd y dosparth iselradd. Geiriadur rhad ymarferol yw hwn i’r lluaws nad allant hyfforddio i gael rhai mwy.