LXXXIX.

Dienhyt y bob llawr llanwet
E hual amhaual afneuet
Twll tall e rodawr
Cas o hir gwythawc
Rywonyawc diffreidyeit
Eil gweith gelwideint a mallet
Yg catveirch a seirch greulet
Bedin agkysgoget yt vyd cat voryon
Cochro llann bann ry godhet
Trwm en trin a llavyn yt lladei
Garw rybud o gat dydygei
Cann calan a darmeithei
Ef gwenit adan vab ervei
Ef gwenit adan dwrch trahawc
Un riein a morwyn a mynawc
A phan oed mab teyrn teithyawc
Yng gwyndyt gwaed glyt gwaredawc
Kyn golo gweryt ar rud
Llary hael etvynt digythrud
O glot a chet echyawc
Neut bed garthwys hir o dir rywonyawc