XC.

Peis dinogat e vreith vreith
O grwyn balaot ban wreith
Chwit chwit chwidogeith
Gochanwn gochenyn wyth geith
Pan elei dy dat ty e helya
Llath ar y ysgwyd llory eny llaw
Ef gelwi gwn gogyhwch
Giff gaff dhaly dhaly dhwc dhwc
Ef lledi bysc yng corwc
Mal ban llad llew llywywc
Pan elei dy dat ty e vynyd
Dydygei ef penn ywrch pen gwythwch penn hyd
Penn grugyar vreith o venyd
Penn pysc o rayadyr derwennyd
Or sawl yt gyrhaedei dy dat ty ae gicwein
O wythwch a llewyn a llwyuein
Nyt anghei oll ny uei oradein