XXV.

Cam e adaw heb gof camb ehelaeth
Nyt adawei adwy yr adwriaeth
Nyt edewes e lys les kerdoryon prydein
Diw calan yonawr ene aruaeth
Nyt erdit e dir kevei diffeith
Drachas anias dreic ehelaeth
Dragon yg gwyar gwedy gwinvaeth
Gwenabwy vab gwenn gynhen gatraeth