XXVI.
Bu gwir mal y meud e gatlew
Ny deliis meirch neb marchlew
Heessit waywawr y glyw
Y ar llemenic llwybyr dew
Keny vaket am vyrn am borth
Dywal y gledyual emborth
Heessyt onn o bedryollt y law
Y ar veinnyell vygedorth
Yt rannei rygu e rywin
Yt ladei a llauyn vreith o eithin
Val pan vel medel ar vreithin
E gwnaei varchlew waetlin