CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.

Ymysgydwch o’ch cysgadrwydd—
Yn filoedd dowch i foli Duw;
Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,
Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:
Mae pob Calan fel yn gwaeddi,
A’r tymhorau bob yr un,—
Yn eu dull yn dwys bregethu—
“Derfydd dyddiau byrion dyn.”

Heddyw’m gorchwyl innau dderfydd,
Alwai’n chwaneg mo’no chwi;
Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd
A lladmerydd y bum i;
Mi fynegwn ddull y tywydd,
P’un ai teg ai garw’r gwaith,
Fel y gwypech ar obenydd
Ai addas oedd y dydd i daith.

Do, mi wyliais gylch eich drysau
Ar ryw oerion oriau hir,
Rhag i ddynion drwg eu nwydau
Dorri eich aneddau’n wir;
Tywydd garw, mwy nag oerni,
Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,
A chan ofal i’ch gwas’naethu
Methais gysgu lawer gwaith.

Daeth fy ystod at ei therfyn,
Darfu’m tro oddeutu’ch tre’,
Un galenig wyf yn ofyn
Am fy llafur yn y lle;
Chwi sy’n meddu da a moddion—
Digon sy’n eich llety llawn,—
Gwnai ychydig o’ch gweddillion
DIC a’i deulu’n llawen iawn.