MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.

Lle treigla’r Caveri [{101}] yn donnau tryloewon,
Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a’r pîn
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
Lle distyll eu cangau y neithdar a’r gwîn;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A’i fron braidd rhy lawn i’w dafod lefaru,
Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:—

“Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!
Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,
A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,
Disgwyliais am haul—ond y Seren fachludodd
Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.

“Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd
I’th fynwes fendithion rhagorach nag un,
Yn ofer âg urdd bryd a phryd y’th anrhegwyd,
Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun;
Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,
A blodau amryliw yn hulio dy anial,
A nentydd yn siarad ar wely o risial,
A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.

“Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn
Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd;
Yn ofer y gwisgwyd pob dôl a phob dyffryn
A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;
Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,
A gwythi o berl i fritho dy ddaear;
Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar
Yr angrhed a’i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.

“Dy goelgrefydd greulon wna d’ardd yn anialdir,
Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham:
Pa oergri fwrlymaidd o’r Ganges [{102a}] a glywir?
Maban a foddwyd gan grefydd y fam:
Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;
O! dacw’r nen gan y goelcerth yn rhuddo,
Ac uchel glogwyni y Malwah [{102b}] ’n adseinio
Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.

“Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,
A’r aberth anfeidrol ar ael Calfari,
Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,
A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; [{102c}]
Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,
Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd
Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?—
Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. [{102d}]

“A’th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,
A’th enaid yn dân o enyniad y Nef,
Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,
Gyda’r un serch ac addfwynder ag ef;
Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,
Enillai’r digred at y groes a’r gwirionedd,
Llonyddai’r gydwybod mewn nefol drugaredd;—
Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.

“Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,
Cyfrenit elfennau danteithion y nen;
Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,
A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen;
Doe y datgenit fod Nef i’r trallodus—
Heddyw ffraethineb sy’ fud ar dy wefus—
Ehedaist o’r ddaear heb wasgfa ofidus,
I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. [{103a}]

’Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti’r diwrnod
’Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd;
Y grechwen sy’n codi o demlau’r eulunod,
Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;
Juggernaut [{103b}] erch barotoa’i olwynion—
Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion—
Duodd y nos—ac i deulu Duw Sïon
Diflannodd pob gobaith am weled y dydd.”

Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,
Gwnai gam âg addewid gyfoethog yr IÔR:
A ddiffydd yr haul am i seren fachludo?
Os pallodd yr aber, a sychodd y môr?
Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,
Yn ennyn o’r Gauts hyd gopâu Himalaya, [{104a}]
Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,
O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.

A hwyrach mai d’wyrion a gasglant dy ddelwau
A fwrir i’r wâdd ar bob twmpath a bryn,
Ar feddrod ein Heber i’w rhoi yn lle blodau,—
Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn:
Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau,
Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau,
Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau,
Os dinôdd y gerdd bydd y llygad yn llyn.

Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i’r beddrod,
Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith;
Yn nghanol dy lesni y gwywaist i’r gwaelod,
A’th ddeilen yn îr gan y wawrddydd a’r gwlith:
Mewn munyd newidiaist y meitr am goron,
A’r fantell esgobawl am wisg wen yn Sïon,
Ac acen galarnad am hymn anfarwolion,
A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith.

Llwyni Academus, [{104b}] cynorsaf dy lwyddiant,
Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a’r gwâr;
Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant
O alar ac alaeth i’r lluoedd a’th gâr:
Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i’th hoffi,
Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri
A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri
Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar.

Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia,
O Helicon yfaist ym more dy oes;
Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa,
A swyn pob testynau daearol a ffoes:
Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau,
A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau;
Tithau’n ddi-fôst a dderbyniaist eu cedau,
I’w hongian yn offrwm ar drostan y Groes.

Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn,
Gan addaw pob mwyniant os unit âg ef,—
Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn
Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a’r nef:
Yn Hodnet [{105}] yn hir saif dy enw ar galonnau
Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy’th bregethau—
Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau—
Y weddw a noddaist—y wan wneist yn gref.

Gadewaist a’th garant—yn ysbryd Cenadwr
Y nofiaist tros donnau trochionog y môr,
I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr
I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore;
Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain—
Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain—
Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain
Na sengaist ti India heb gwmni dy IÔR.

O Gôr Trichinopoly, cadw di’n ddiogel
Weddillion y Sant i fwynhau melus hun,
Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,
Gofynnir adfeilion ei babell bob un;—
Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach,
A ganodd ein Heber ar dannau siriolach,
Yn arwyl y Bardd â pha odlau cymhwysach
Dilynir ei elor na’i odlau ei hun?

“Diangaist i’r bedd—ni alarwn am danad,
Er mai trigfa galar a niwl ydyw’r bedd;
Agorwyd ei ddorau o’r blaen gan dy Geidwad,
A’i gariad gwna’r ddunos yn ddiwrnod o hedd.
Diangaist i’r bedd—ac ni welwn di mwyach
Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen:
Ond breichiau rhad râs a’th gofleidiant ti bellach,
Daeth gobaith i’r euog pan drengodd yr Oen.

“Diangaist i’r bedd—ac wrth adael marwoldeb
Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb,
Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist.
Diangaist i’r bedd—byddai’n bechod galaru,
At Dduw y diangaist—y Duw a dy roes:
Efe a’th gymerodd—Efe wna’th adferu
Digolyn yw angau trwy angau y groes.”

* * * * *

Cyfieithiad yw’r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,—

“Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee,
Though sadness and sorrow encompass the tomb.”