XX.

Eveis y win a med e mordei
Can yueis disgynneis rann fin fawd ut
Nyt didrachywed colwed drut
Pan disgynnei bawb ti disgynnot
Ys deupo gwaeanat gwerth na phechut
Pressent i drawd oed vreichyawr drut

XXI.

Gwyr a aeth gatraeth buant enwawc
Gwin a med o eur vu eu gwirawt
Blwydyn en erbyn urdyn deuawt
Trywyr a thri ugeiut a thrychant eurdorchawc
Or sawl yt gryssyassant uch gormant wirawt
Ny diengis namyn tri o wrhydri fossawt
Deu gatki aeron a chenon dayrawt
A minheu om gwaetfreu gwerth vy gwennwawt

XXII.

Uyg car yng wirwar nyn gogyffrawt
O neb o ny bei o gwyn dragon ducawt
Ni didolit yng kynted o ved gwirawt
Ef gwnaei ar beithing perthyng aruodyawc
Ef disgrein eg cat disgrein en aelawt
Neus adrawd gododin gwedy fossawt
Pan vei no llwyeu llymach nebawt

XXIII.

Aryf angkynnull agkyman dull agkysgoget
Tra chywed vawr treiglessyd llawr lloegrwys giwet
Heessit eis ygkynnor eis yg cat uereu
Goruc wyr lludw
A gwraged gwydw
Kynnoe angheu
Greit vab hoewgir
Ac ysberi
Y beri creu

XXIV.

Arwr y dwy ysgwyt adan
E dalvrith ac eil tith orwydan
Bu trydar en aerure bu tan
Bu ehut e waewawr bu huan
Bu bwyt brein bu bud e vran
A chyn edewit en rydon
Gran wlith eryr tith tiryon
Ac o du gwasgar gwanec tu bronn
Beird byt barnant wyr o gallon
Diebyrth e gerth e gynghyr
Diua oed e gynrein gan wyr
A chynn e olo a dan eleirch
Vre ytoed wryt ene arch
Gorgolches e greu y seirch
Budvan vab bleidvan dihavarch