XXV.

Cam e adaw heb gof camb ehelaeth
Nyt adawei adwy yr adwriaeth
Nyt edewes e lys les kerdoryon prydein
Diw calan yonawr ene aruaeth
Nyt erdit e dir kevei diffeith
Drachas anias dreic ehelaeth
Dragon yg gwyar gwedy gwinvaeth
Gwenabwy vab gwenn gynhen gatraeth

XXVI.

Bu gwir mal y meud e gatlew
Ny deliis meirch neb marchlew
Heessit waywawr y glyw
Y ar llemenic llwybyr dew
Keny vaket am vyrn am borth
Dywal y gledyual emborth
Heessyt onn o bedryollt y law
Y ar veinnyell vygedorth
Yt rannei rygu e rywin
Yt ladei a llauyn vreith o eithin
Val pan vel medel ar vreithin
E gwnaei varchlew waetlin

XXVII.

Issac anuonawc o barth deheu
Tebic mor lliant y deuodeu
O wyled a llaryed
A chein yuet med
Men yth glawd e offer e bwyth madeu
Ny bu hyll dihyll na heu diheu
Seinnyessyt e gledyf ym penn mameu
Murgreit oed moleit ef mab gwydneu

XXVIII.

Keredic caradwy e glot
Achubei gwarchatwei not
Lletvegin is tawel kyn dyuot
E dyd gowychyd y wybot
Ys deupo car kyrd kyvnot
Y wlat nef adef atnabot

XXIX.

Keredic karadwy gynran
Keimyat yg cat gouaran
Ysgwyt eur crwydyr cadlan
Gwaewawr uswyd agkyuan
Kledyual dywal diwan
Mal gwr catwei wyaluan
Kynn kysdud daear hynn affan
O daffar diffynnei e vann
Ys deupo kynnwys yg kyman
Can drindawt en undawt gyuan