XXX.

Pan gryssyei garadawc y gat
Mal baed coet trychwn trychyat
Tarw bedin en trin gormynyat
Ef llithyei wydgwn oe anghat
Ys vyn tyst ewein vab eulat
A gwryen a gwynn a gwryat
O gatraeth o gymynat
O vrynn hydwn kynn caffat
Gwedy med gloew ar anghat
Ny weles vrun e dat

XXXI.

Gwyr a gryssyasant buant gytneit
Hoedyl vyrryon medwon uch med hidleit
Gosgord mynydawc enwawc en reit
Gwerth eu gwled e ved vu eu heneit
Caradawc a madawc pyll ac yeuan
Gwgawn a gwiawn gwynn a chynvan
Peredur arveu dur gwawr-dur ac aedan
Achubyat eng gawr ysgwydawr angkyman
A chet lledessynt wy lladassan
Neb y eu tymhyr nyt atcorsan

XXXII.

Gwyr a gryssyassant buant gytvaeth
Blwydyn od uch med mawr eu haruaeth
Mor dru eu hadrawd wy angawr hiraeth
Gwenwyn eu hadlam nyt mab mam ae maeth
Mor hir eu hetlit ac eu hetgyllaeth
En ol gwyr pebyr temyr gwinvaeth
Gwlyget gododin en erbyn fraeth
Ancwyn mynydawc enwawc e gwnaeth
A phrit er prynu breithyell gatraeth

XXXIII.

Gwyr a aeth gatraeth yg cat yg gawr
Nerth meirch a gwrymseirch ac ysgwydawr
Peleidyr ar gychwyn a llym waewawr
A llurugeu claer a chledyuawr
Ragorei tyllei trwy vydinawr
Kwydei bym pymwnt rac y lavnawr
Ruuawn hir ef rodei eur e allawr
A chet a choelvein kein y gerdawr

XXXIV.

Ny wnaethpwyt neuad mor orchynnan
Mor vawr mor oruawr gyvlavan
Dyrllydut medut moryen tan
Ny thraethei na wnelei kenon kelein
Un seirchyawc saphwyawc son edlydan
Seinnyessit e gledyf empenn garthan
Noc ac esgyc canec vurvawr y chyhadvan
Ny mwy gysgogit wit uab peithan