XXXV.
Ny wnaethpwyt neuad mor anvonawc
Ony bei voryen eil caradawc
Ny diengis en trwm elwrw mynawc
Dywal dywalach no mab ferawc
Fer y law faglei fowys varchawc
Glew dias dinas e lu ovnawc
Rac bedin ododin bu gwasgarawc
Y gylchwy dan y gymwy bu adenawc
Yn dyd gwyth bu ystwyth neu bwyth atveillyawc
Dyrllydei vedgyrn eillt mynydawc
XXXVI.
Ny wnaethpwyt neuad mor diessic
No Chynon lary vronn geinnyon Wledic
Nyt ef eistedei en tal lleithic
E neb a wanei nyt adwenit
Raclym e waewawr
Calch drei tyllei vydinawr
Rac vuan y veirch rac rygiawr
En dyd gwyth atwyth oed e lavnawr
Pan gryssyei gynon gan wyrd wawr
XXXVII.
Disgynsit en trwm yg kessevin
Ef diodes gormes ef dodes fin
Ergyr gwayw rieu ryvel chwerthin
Hut effyt y wrhyt elwry elfin
Eithinyn uoleit mur greit tarw trin
XXXVIII.
Disgynsit en trwm yg kesseuin
Gwerth med yg kynted a gwirawt win
Heyessyt y lavnawr rwg dwy vydin
Arderchawc varchawc rac gododin
Eithinyn uoleit mur greit tarw trin
XXXIX.
Disgynsit en trwm rac alauoed wyrein
Wyre llu llaes ysgwydawr
Ysgwyt vriw rac biw beli bloedvawr
Nar od uch gwyar fin festinyawr
An deliit kynllwyt y ar gynghorawr
Gorwyd gwareurffrith rin ych eurdorchawr
Twrch goruc amot emlaen ystre ystrywawr
Teilingdeith gwrthyat gawr
An gelwit e nef bit athledhawr
Emyt ef krennit e gat waewawr
Catvannan er aclut clotvawr
No chynhennit na bei llu idaw llawr