XL.

Am drynni drylaw drylenn
Am lwys am difíwys dywarchen
Am gwydaw gwallt e ar benn
Y am wyr eryr gwydyen
Gwyduc neus amuc ac wayw
Ardullyat diwyllyat e berchen
Amuc moryen gwenwawt
Murdyn a chyvrannv penn
Prif eg weryt ac an nerth ac am hen
Trywyr yr bod bun bratwen
Deudec gwenabwy vab gwen

XLI.

Am drynni drylaw drylenn
Gweinydyawr ysgwydawr yg gweithyen
En aryal cledyual am benn
En lloegyr drychyon rac trychant unben
A dalwy mwng bleid heb prenn
En e law gnawt gwychnawt eny lenn
O gyurang gwyth ac asgen
Trenghis ny diengis bratwen

XLII.

Eurar vur caer krysgrwydyat
Aer cret ty na thaer aer vlodyat
Un ara ae leissyar argatwyt
Adar brwydryat
Syll o virein neus adrawd a vo mwy
O damweinnyeit llwy
Od amluch lliuanat
Neus adrawd a vo mwy
Enawr blygeint
Na bei kynhawel kynheilweing

XLIII.

Pan vuost di kynnivyn clot
En amwyn tywyssen gordirot
O haedot en gelwit redyrch gwyr not
Oed dor diachor diachor din drei
Oed mynut wrth olut ae kyrchei
Oed dinas e vedin ae cretei
Ny elwit gwinwit men na bei

XLIV.

Ket bei cann wr en vn ty
Atwen ovalon keny
Pen gwyr tal being a dely