XLV.

Nyt wyf vynawc blin
Ny dialaf vy ordin
Ny chwardaf y chwerthin
A dan droet ronin
Ystynnawc vyg glin
A bundat y
En ty deyeryn
Cadwyn heyernyn
Am ben vyn deulin
O ved o vuelin
O gatraeth werin
Mi na vi aneurin
Ys gwyr talyessin
Oveg kywrenhin
Neu cheing e ododin
Kynn gwawr dyd dilin

XLVI.

Goroled gogled gwr ae goruc
Llary vronn haeladon ny essyllut
Nyt emda daear nyt emduc
Mam mor eiryan gadarn haearn gaduc
O nerth e cledyf claer e hamuc
O garchar amwar daear em duc
O gyvle angheu o anghar dut
Keneu vab llywarch dihauareh drut

XLVII.

Nyt ef borthi gwarth gorsed
Senyllt ae lestri llawn med
Godolei gledyf e gared
Godolei lemein e ryuel
Dyfforthsei lynwyssawr oe vreych
Rac bedin ododin a brennych
Gnawt ene neuad vyth meirch
Gwyar a gwrymseirch
Keingyell hiryell oe law
Ac en elyd bryssyaw
Gwen ac ymhyrdwen hyrdbleit
Disserch a serch ar tro
Gwyr nyt oedyn drych draet fo
Heilyn achubyat pob bro

XLVIII.

Llech leutu tut leu leudvre
Gododin ystre
Ystre ragno ar y anghat
Angat gynghor e leuuer cat
Cangen gaerwys
Keui drillywys
Tymor dymhestyl tymhestyl dymor
E beri restyr rac riallu
O dindywyt yn dyvu
Wyt yn dy wovu
Dwys yd wodyn
Llym yt wenyn
Llwyr genyn llu
Ysgwyt rugyn
Rac tarw trin
Y dal vriw vu

XLIX.

Erkryn e alon ar af (ar)
Er y brwydrin trin trachuar
Kwr e vankeirw
Am gwr e vanncarw
Byssed brych briwant barr
Am bwyll am disteir am distar
Am bwyll am rodic am rychward
Ys bro ys brys treullyawt rys en riwdrec
Ny hu wy ny gaffo e neges
Nyt anghwy a wanwy odiwes