LV.
Kywyrein ketwyr kywrenhin
Gwlat atvel gochlywer eu dilin
Ef lladawd a chymawn a llain
A charnedawr tra gogyhwc gwyr trin
LVI.
Kywyrein ketwyr hyuaruuant
Y gyt en un vryt yt gyrchassant
Byrr eu hoedyl hir eu hoet ar eu carant
Seith gymeint o loegrwys a ladassant
O gyvryssed gwraged gwyth a wnaethant
Llawer mam ae deigyr ar y hamrant
LVII.
Ny wnaethpwyt neuad mor dianaf
Lew mor hael baran llew llwybyr vwyhaf
A chynon laryvronn adon deccaf
Dinas y dias ar llet eithaf
Dor angor bedin bud eilyassaf
Or sawl a weleis ac a welav
Ymyt en emdwyn aryf gryt gwryt gwryaf
Ef lladei oswyd a llavyn llymaf
Mal brwyn yt gwydynt rac y adaf
Mab klytno clot hir canaf
Yty or clot heb or heb eithaf
LVIII.
O winveith a medweith
Dygodolyn gwnlleith
Mam hwrreith
Eidol enyal
Ermygei rac vre
Rac bronn budugre
Breein dwyre
Wybyr ysgynnyal
Kynrein en kwydaw
Val glas heit arnaw
Heb giliaw gyhaual
Synnwyr ystwyr ystemel
Y ar weillyon gwebyl
Ac ardemyl gledyual
Blaen ancwyn anhun
Hediw an dihun
Mam reidun rwyf trydar
LIX.
O winveith a medweith yd aethant
E genhyn llurugogyon
Nys gwn lleith lletkynt
Cyn llwyded eu lleas dydaruu
Rac catraeth oed fraeth eu llu
O osgord vynydawc wawr dru
O drychant namen un gwr ny dyvu