LX.

O winveith a medveith yt gryssyassant
Gwyr en reit moleit eneit dichwant
Gloew dull y am drull yt gytvaethant
Gwin a med amall a amucsant
O osgord vynydawc am dwyf atveillyawc
A rwyf a golleis om gwir garant
O drychan riallu yt gryssyassant
Gatraeth tru namen vn gwr nyt atcorsant

LXI.

Hv bydei yg kywyrein pressent mal pel
Ar y e hu bydei ene uei atre
Hut amuc ododin
O win a med en dieding
Yng ystryng ystre
Ac adan gatvannan cochre,
Veirch marchawc godrud e more

LXII.

Angor dewr daen
Sarph seri raen
Sengi wrymgaen
Emlaen bedin
Arth i arwynawl drussyawr dreissyawr
Sengi waewawr
En dyd cadyawr
Yg clawd gwernin
Eil nedic nar
Neus duc drwy var
Gwled y adar
O drydar drin
Kywir yth elwir oth enwir weithret
Ractaf ruyuyadur mur catuilet
Merin a madyein mat yth, anet

LXIII.

Ardyledawc canu kyman caffat
Ketwyr am gatraeth a wnaeth brithret
Brithwy a wyar sathar sanget
Sengi wit gwned bual am dal med
A chalaned kyuurynged
Nyt adrawd kibno wede kyffro
Ket bei kymun keui dayret

LXIV.

Ardyledawc canu kyman ovri
Twrf tan a tharan a ryuerthi
Gwrhyt arderchawc varchawc mysgi
Ruduedel ryuel a eiduni
Gwr gwned divudyawc dimyngyei
Y gat or meint gwlat yd y klywi
Ae ysgwyt ar y ysgwyd hut arolli
Wayw mal gwin gloew o wydyr lestri
Aryant am yued eur dylyi
Gwinvaeth oed waetnerth vab llywri