LXV.
Ardyledawc canu claer orchyrdon
A gwedy dyrreith dyleinw aeron
Dimcones lovlen benn eryron
Llwyt ef gorevvwyt y ysgylvyon
Or a aeth gatraeth o eur dorchogyon
Ar neges mynydawc mynawc maon
Ny doeth en diwarth o barth vrython
Ododin wr bell well no Chynon
LXVI.
Ardyledawc canu kenian kywreint
Llawen llogell byt bu didichwant
Hu mynnei engkylch byt eidol anant
Yr eur a meirch mawr a med medweint
Namen ene delei o vyt hoffeint
Kyndilic aeron wyr enouant
LXVII.
Ardyledawc canu claer orchyrdon
Ar neges mynydawc mynawc maon
A merch eudaf hir dreis gwananhon
Oed porfor gwisgyadur dir amdrychyon
LXVIII.
Dyfforthes meiwyr molut nyuet
Baran tan teryd ban gynneuet
Duw mawrth gwisgyssant eu gwrym dudet
Diw merchyr peri deint eu calch doet
Divyeu bu diheu eu diuoet
Diw gwener calaned amdyget
Diw sadwrn bu divwrn eu kytweithret
Diw sul eu llavneu rud amdyget
Diw llun hyt benn clun gwaetlun gwelet
Neus adrawd gododin gwedy lludet
Rac pebyll madawc pan atcoryet
Namen un gwr o gant ene delhet
LXIX.
Mochdwyreawc y more
Kynnif aber rac ystre
Bu bwlch bu twlch tande
Mal twrch y tywysseist vre
Bu golut mynut bu lle
Bu gwyar gweilch gwrymde