LXX.

Moch dwyreawc y meitin
O gynnu aber rac fin
O dywys yn tywys yn dylin
Rac cant ef gwant gesseuin
Oed garw y gwnaewch chwi waetlin
Mal yuet med drwy chwerthin
Oed llew y lladewch chwi dynin
Cledyual dywal fysgyolin
Oed mor diachor yt ladei
Esgar gwr haual en y a bei

LXXI.

Disgynnwys en affwys dra phenn
Ny deliit kywyt kywrennin benn
Disgiawr breint vu e lad ar gangen
Kynnedyf y ewein esgynnv ar ystre
Ystwng kyn gorot goreu gangen
Dilud dyleyn cathleu dilen
Llywy llyvroded rwych ac asgen
Anglas asswydeu lovlen
Dyphorthes ae law luric wehyn
Dymgwallaw gwledic dal
Oe brid brennyal

LXXII.

Eidol adoer crei grannawr gwynn
Dysgiawr pan vei bun barn benn
Perchen meirch a gwrymseirch
Ac ysgwydawr yaen
Gyuoet a gyuergyr esgyn disgyn

LXXIII.

Aer dywys ry dywys ryvel
Gwlat gord garei gwrd uedel
Gwrdweryt gwaet am iroed
Seirchyawr am y rud yt ued
Seingyat am seirch seirch seingyat
Ar delw lleith dygiawr lludet
Peleidyr en eis en dechreu cat
Hynt am oleu bu godeu beleidryal

LXXIV.

Keint amnat am dina dy gell
Ac ystauell yt uydei dyrllydei
Med melys maglawr
Gwrys aergynlys gan wawr
Ket lwys lloegrwys lliwedawr
Ry benyt ar hyt yd allawr
Eillt wyned klywere arderched
Gwananhon byt ved
Savwy cadavwy gwyned
Tarw bedin treis trin teyrned
Kyn kywesc daear kyn gorwed
But orfun gododin bed