LXXV.

Bedin ordyvnat en agerw
Mynawc lluydawc llaw chwerw
Bu doeth a choeth a syberw
Nyt oed ef wrth gyued gochwerw
Mudyn geinnyon ar y helw
Nyt oed ar lles bro pob delw

LXXVI.

An gelwir mor a chynnwr ym plymnwyt
Yn tryvrwyt peleidyr peleidyr gogymwyt
Goglyssur heyrn lliveit llawr en assed
Sychyn yg gorun en trydar
Gwr frwythlawn flamdur rac esgar

LXXVII.

Dyfforthes cat veirch a chatseirch
Greulet ar gatraeth cochre
Mae blaenwyd bedin dinus
Aergi gwyth gwarth vre
An gelwir ny faw glaer fwyre
Echadaf heidyn haearnde

LXXVIII.

Mynawc gododin traeth e annor
Mynawc am rann kwynhyator
Rac eidyn aryal flam nyt atcor
Ef dodes e dilis yg kynhor
Ef dodes rac trin tewdor
En aryal ar dywal disgynnwys
Can llewes porthes mawrbwys
O osgord vynydawc ny diangwys
Namen vn aryf amdiffryf amdiffwys

LXXIX.

O gollet moryet ny bu aessawr
Dyfforthyn traeth y ennyn llawr
Ry duc oe lovlen glas lavnawr
Peleidyr pwys preiglyn benn periglawr
Y ar orwyd erchlas penn wedawr
Trindygwyd trwch trach y lavnawr
Pan orvyd oe gat ny bu foawr
An dyrllys molet med melys maglawr