LXXX.

Gweleis y dull o benn tir adoun
Aberth am goelkerth a disgynnyn
Gweleis oed kenevin ar dref redegein
A gwyr nwythyon ry gollessyn
Gweleis gwyr dullyawr gan awr adevyn
A phenn dyvynwal a breych brein ae cnoyn

LXXXI.

Mat vydic ysgavynwyn asgwrn aduaon
Aelussawc tebedawc tra mordwy alon
Gwrawl amdyvrwys goruawr y lu
Gwryt vronn gwrvan gwanan arnaw
Y gynnedyf disgynnu rac naw riallu
Yg gwyd gwaed a gwlat a gordiynaw
Caraf vy vudic lleithic a vu anaw
Kyndilic aeron kenhan lew

LXXXII.

Carasswn disgynnu yg catraeth gessevin
Gwert med yg kynted a gwirawt win
Carasswn neu chablwys ar llain
Kyn bu e leas oe las uffin
Carasswn eil clot dyfforthes gwaetlin
Ef dodes e gledyf yg goethin
Neus adrawd gwrhyt rac gododyn
Na bei mab keidyaw clot un gwr trin

LXXXIII.

Truan yw gennyf vy gwedy lludet
Grodef gloes angheu trwy angkyffret
Ac eil trwm truan gennyf vy gwelet
Dygwydaw an gwyr ny penn o draet
Ac ucheneit hir ac eilywet
En ol gwyr pebyr temyr tudwet
Ruvawn a gwgawn gwiawn a gwlyget
Gwyr gorsaf gwryaf gwrd yg calet
Ys deupo eu heneit wy wedy trinet
Kynnwys yg wlat nef adef avneuet

LXXXIV.

Ef gwrthodes tres tra gwyar llyn
Ef lladei val dewrdull nyt echyn
Tavloyw ac ysgeth tavlet wydrin
A med rac teyrned tavlei vedin
Menit y gynghor men na lleveri
Lliaws ac vei anwaws nyt odewyt
Rac ruthyr bwyllyadeu a chledyvawr
Lliveit handit gwelir llavar lleir