LXXXV.
Porthloed vedin
Porthloed lain
A llu racwed
En ragyrwed
En dyd gwned
Yg kyvryssed
Buant gwychawc
Gwede meddawt
A med yuet
Ny bu waret
An gorwylam
Enyd frwythlam
Pan adroder torret ergyr
O veirch a gwyr tyngir tynget
LXXXVI.
Pan ym dyvyd lliaws pryder
Pryderaf fun
Fun en ardec
Aryal redec
Ar hynt wylaw
Ku kystudywn
Ku carasswn
Kelleic faw
Ac argoedwys
Guae gordyvnwys
Y emdullyaw
Ef dadodes arlluyd pwys ar lles rieu
Ar dilyvyn goet
Ar diliw hoet
Yr kyvedeu
Kyvedwogant ef an dyduc ar dan adloyw
Ac ar groen gwynn goscroyw
LXXXVII.
Gereint rac deheu gawr a dodet
Lluch gwynn gwynn dwll ar ysgwyt
Yor yspar llary yor
Molut mynut mor
Gogwneif heissyllut gwgynei gereint
Hael mynawc oedut
LXXXVIII.
Diannot e glot e glutvan
Diachor angor ygkyman
Diechyr eryr gwyr govaran
Trin odef eidef oed eiryan
Ragorei veirch racvuan
En trin lletvegin gwin o bann
Kyn glasved a glassu eu rann
Bu gwr gwled od uch med mygyr o bann
LXXXIX.
Dienhyt y bob llawr llanwet
E hual amhaual afneuet
Twll tall e rodawr
Cas o hir gwythawc
Rywonyawc diffreidyeit
Eil gweith gelwideint a mallet
Yg catveirch a seirch greulet
Bedin agkysgoget yt vyd cat voryon
Cochro llann bann ry godhet
Trwm en trin a llavyn yt lladei
Garw rybud o gat dydygei
Cann calan a darmeithei
Ef gwenit adan vab ervei
Ef gwenit adan dwrch trahawc
Un riein a morwyn a mynawc
A phan oed mab teyrn teithyawc
Yng gwyndyt gwaed glyt gwaredawc
Kyn golo gweryt ar rud
Llary hael etvynt digythrud
O glot a chet echyawc
Neut bed garthwys hir o dir rywonyawc