V.

Kaeawc kynhorawc aruawc eg gawr
Kyn no diw e gwr gwrd eg gwyawr
Kynran en racwan rac bydinawr
Kwydei pym pymwnt rac y lafnawr
O wyr deivyr a brennych dychiawr
Ugein cant eu diuant en un awr
Kynt y gic e vleid nogyt e neithyawr
Kynt e vud e vran nogyt e allawr
Kyn noe argyurein e waet e lawr
Gwerth med eg kynted gan lliwedawr
Hyueid hir ermygir tra vo kerdawr

VI.

Gwyr a aeth Ododin chwerthin ognaw
Chwerw en trin a llain en emdullyaw
Byrr vlyned en hed yd ynt endaw
Mab botgat gwnaeth gwynnyeith gwreith e law
Ket elwynt e lanneu e benydyaw
A hen a yeueing a hydyr a llaw
Dadyl diheu angheu y eu treidaw

VII.

Gwyr a aeth Ododin chwerthin wanar
Disgynnyeis em bedin trin diachar
Wy lledi a llavnawr heb vawr drydar
Colovyn glyw reithuyw rodi arwar

VIII.

Gwyr a aeth gatraeth oed fraeth eu llu
Glasved eu hancwyn a gwenwyn vu
Trychant trwy beiryant en cattau
A gwedy elwch tawelwch vu
Ket elwynt e lanneu e benydu
Dadyl dieu angheu y eu treidu

IX.

Gwyr a aeth gatraeth veduaeth uedwn
Fyryf frwythlawn oed cam nas kymhwyllwn
E am lavnawr coch gorvawr gwrmwn
Dwys dengyn ed emledyn aergwn
Ar deulu brenneych beych barnasswn
Dilyw dyn en vyw nys adawsswn
Kyueillt a golleis diffleis vedwn
Rugyl en emwrthryn rynn riadwn
Ny mennws gwrawl gwadawl chwegrwn
Maban y gian o vaen gwynngwn