X.

Gwyr a aeth gatraeth gan wawr
Trauodynt en hed eu hovnawr
Milcant a thrychant a emdaflawr
Gwyarllyt gwynnodynt waewawr
Ef gorsaf yng gwryaf eg gwryawr
Rac gosgord mynydawc mwynvawr

XI.

Gwyr a aeth gatraeth gan wawr
Dygymyrrws eu hoet eu hanyanawr
Med evynt melyn melys maglawr
Blwydyn bu llewyn llawer kerdawr
Coch eu cledyuawr na phurawr
Eu llain gwyngalch a phedryollt bennawr
Rac gosgord mynydawc mwynvawr

XII.

Gwyr a aeth gatraeth gan dyd
Neus goreu o gadeu gewilid
Wy gwnaethant en geugant gelorwyd
A llavnawr llawn annawd em bedyd
Goreu yw hwn kyn kystlwn kerennyd
Enneint creu ac angeu oe hennyd
Rac bedin Ododin pan vudyd
Neus goreu deu bwyllyat neirthyat gwychyd

XIII.

Gwr a aeth gatraeth gan dyd
Ne llewes ef vedgwyn veinoethyd
Bu truan gyuatcan gyvluyd
E neges ef or drachwres drenghidyd
Ny chryssiws gatraeth
Mawr mor ehelaeth
E aruaeth uch arwyt
Ny bu mor gyffor
O eidyn ysgor
A esgarei oswyd
Tutuwlch hir ech e dir ae dreuyd
Ef lladei Saesson seithuet dyd
Perheit y wrhyt en wrvyd
Ae govein gan e gein gyweithyd
Pan dyvu dutvwch dut nerthyd
Oed gwaetlan gwyaluan vab Kilyd

XIV.

Gwr a aeth gatraeth gan wawr
Wyneb udyn ysgorva ysgwydawr
Crei kyrchynt kynnullynt reiawr
En gynnan mal taran twryf aessawr
Gwr gorvynt gwr etvynt gwr llawr
Ef rwygei a chethrei a chethrawr
Od uch lled lladei a llavnawr
En gystud heyrn dur arbennawr
E mordei ystyngei a dyledawr
Rac erthgi erthychei vydinawr