Canawon Goronwy, gwrdd gynnired gwyth,
Canawon hydwyth, hydr eu gweithred:
Gwyr a obryn tal ymhob caled,
Gwyr yngawr gwerthfawr gwrdd ymwared,
Bugelydd Hafren balch eu clywed,
Bugunat cyrn medd mawr a wna neued.

Dywallaw di’r corn argynfelyn,
Anrhydeddus, feddw, o fedd gorewyn,
Ac o’r mynni hoedl hyd un blwyddyn,
Na ddidawl i barch, can nid perthyn,
A dyddwc i Ruffydd waewruddelyn,
Gwin a gwydr goleu yn ei gylchyn,
Dragon Arwystli, arwystl terfyn,
Dragon Owain hael o hil Cynfyn,
Dragon iw dechreu, ac niw dychryn cat,
Cyflafan argrat cymwy erlyn.
Cetwyr idd aethant er clod obryn:
Cyfeddon, arfawc, arfau Edwyn,
Talassant i medd mal gwyr Belyn gynt,
Teg i hydrefynt tra bo undyn.

Dywallaw di’r corn, canys amcan cennyf,
Ydd ymgyrryw glyw gloyw ymddiddan,
Ar llaw ddehau ein llyw gyflafan,
Lluch y dan ysgwyd ysgawn lydan,
Ar llaw Ednyfet llawr diogan lew,
Ergyrwayw trylew, trei i darian.
Terfysc ddyffysc ddeu ddiofn anian,
Torrynt torredwynt uch teg adfan,
Teleirw yngbyngrein ynghyfran brwydr,
Tal ysgwyd eurgrwydr torrynt yn fuan:
Tryliw eu pelydr gwedi penwan,
Trylwyn yn amwyn amwiw Garthan.

Cigleu ym Maelawr gawr fawr fuan,
A garw ddisgyrr gwyr, a gwyth erwan,
Ac ymgynnull am drull am dramwyan,
Fal i bu ym Mangor am ongyr dân:
Pan wnaeth dau deyrn uch cyrn cyfrdan.
Pan fu gyfeddach Forach Forfran.

Dywallaw di’r corn, canys myfyr gennyf,
Men ydd amygant medd a’n tymmyr,
Selif diarswyt orsaf Gwygyr,
Gogelet ai cawdd calon eryr!
Ac unmab Madawc, enwawg Dudur hael,
Hawl bleiddiad, lleiddiad, lluch ar ysgyr,
Deu arwreidd, deu lew, yn eu cyngyr,
Deu arial dywal dau fab Ynyr,
Dau rydd yn nydd cad eu cyfergyr,
Cyfargor diachor camp diachyr,
Arfod llewod gwrdd, gwrddwan cadwyr,
Aer gunieid, lunieid, coch eu hongyr,
Treis erwyr yn ffwyr ffaw ehegyr,
Trei eu dwy aesawr dan un ystyr,
Gorfu gwynt gwaeddfan uch glan glasfyr,
Gorddwy clau tonnau Talgarth ystyr.

Dywallaw di fenestr na fyn angau,
Corn can anrhydedd ynghyfeddau,
Hirlas buelin, breint uchel hen ariant,
Ai gortho nid gorthenau:
A dyddwg i Dudur, eryr aerau,
Gwirawd gyssefin o’r gwin gwinau,
Oni ddaw i mewn o’r medd gorau oll,
Gwirawd o ban, dy ben faddau,
Ar llaw Foreiddig, llochiad cerddau,
Cerddyn hyn i glod cyn oer adnau,
Dieithr frodyr fryd ucheldau,
Diarchar arial a dan dalau,

Cedwyr am gorug gwasanaethau,
Nid ym hyn dihyll nam hen deheu
Cynnifieid, gyrthieid, fleinieid, fleiddiau,
Cynfaran creulawn creulyd ferau,
Glew glyw Mochnannwys o Bowys beu:
O glew gwnedd arnaddunt deu,
Achubieit pob rheid, rhudd eu harfeu:
Echedwynt rhag terfysc eu terfynau,
Moliant yw eu rhann y rhei gwynnau;
Marwnad fu neud mi newid y ddau!
O chan Grist mor drist wyf o’r anaeleu!
O goll Moreiddig mawr ei eissieu.

Dywallaw di’r corn can nim puchant,
Hirlas yn llawen yn llaw Forgant,
Gwr a ddyly gwawd gwahan foliant,
Gwenwyn y addwyn, gwan edrywant,
Areglydd defnydd dioddefiant llafn,
Llyfn i deutu llym ei hamgant.

Dywallaw di fenestr o lestr ariant,
Celennyg edmyg, can urdduniant,
Ar llawr Gwestun fawr gwelais irdant,
Ardwy Goronwy oedd gweith i gant,
Cedwyr cyfarfaeth ydd ymwnaethant,
Cad ymerbynieid, eneid dichwant,
Cyfarfu ysgwn ac ysgarant aer,
Llas aer, llosget maer ger mor lliant:
Mwynfawr o garcharawr a gyrchassant,
Meurig fab Gruffydd grym ddarogant,
Neud oedd gochwys pawb pan atgorsant,
Neud oedd lawn o heul hirfryn a phant.

Dywallaw di’r corn ir cynnifieid,
Canawon Owain, cyngrein, cydneid,