hanesion, ac eraill hen goffadwriaethau; o herwydd i maent beunydd yn cael eu difrodi, gan y sawl ni wyddant ddim gwell. Hyn, er lles ein gwlad a’n iaith, yw gwir a diffuant ddamuniad
Eich gostyngedig wasanaethwr, a’ch ewyllysiwr da,
EVAN EVANS.
I. HIRLAS OWAIN.
Owain Cyfeiliog e hun ai cant.
Gwawr pan ddwyre gawr a ddoded,
Galon yn anfon anfudd dynged,
Geleurudd ein gwyr gwedi lludded trwm,
Tremit gofwy mur Maelawr Drefred.
Deon a yrrais dygyhyssed,
Diarswyd a’r frwydr arfau goched,
A rygoddwy glew gogeled rhagddaw,
Gnawd yw oi ddygnaw ddefnydd codded!
Dywallaw di fenestr gan foddhäed,
Y corn yn llaw Rhys yn llys llyw ced,
Llys Owain ar braidd yt ryborthed erioed,
Porth mil a glywi pyrth egored.
Menestr am gorthaw, nam adawed
Estyn y corn er cyd yfed,
Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed,
Hirlas i arwydd aur i dudded:
A dyddwg o fragawd wirawd orgred,
Ar llaw Wgan draws dros i weithred,