Pan welais fod un o Ysgodogion Ucheldir Alban, ac hefyd Sais dysgedig, wedi cyfieithu gwaith eu hen Feirdd i’r Saesoneg, mi a dybygais mai nid gweddus i ni, y Cymry, y rhai sydd genym Gerddi awduraidd, gorhenaidd, o’r einom, fod yn llwyr ddiymdro yn y cyngaws hwnnw: o herwydd, hyd i gwn i, dyna’r unig ragorgamp celfyddyd a adawodd ein hynafiaid ini, sydd heb ei cholli. I mae gwaith y Derwyddon, od oedd dim gwiwgof ganddynt wedi ei ysgrifennu, wedi myned ar ddifancoll; ac nid oes dim wedi dyfod i’n hoes ni oddiwrthynt, ond y Brydyddiaeth yn unig. I mae ein hen Fusic wedi ei llwyr ebargofio: nid yw’r cyweiriau cwynfanus sydd genym yr awron ond dychymmygion diweddar, pan oedd y Cymry yn griddfan tan iau galed y Saeson. Am gelfyddydau eraill, od oedd dim mewn perffeithrwydd, i mae gwedi ei lwyr golli. Nid oes genym ddim hanes am ein hynafiaid o’n hawduron ein hunain, ond oddiwrth y Beirdd yn unig, o flaen Gildas ap Caw; yr hwn sydd yn ein goganu, ac yn ein llurginio, yn hytrach nag ysgrifennu cywir hanes am danom; ond fo wyr hanesyddion yr achos: heblaw hyn, i mae ei waith ef wedi myned drwy ddwylo’r Meneich; gwŷr a fedrai yn dda ddigon dylino pob peth i’w dibenion eu hunain.—Y Beirdd, fal i tystia Giraldus, Arch-diacon Brycheiniog, oeddynt yn cadw achau y Brenhinoedd, ac yn coffau eu gweithredoedd ardderchog; ac oddiwrthynt hwy yn ddiammau i deryw i Dysilio fab Brochwel Ysgythrog, tywysog Powys, ysgrifennu’r hanes sydd yr awron yn myned tan enw Brut y Brenhinoedd, yr hwn a ddarfu i Galfrid ap Arthur, o Aber Mynwy, ei gyfieithu o iaith Llydaw i’r Lladin, ac oddiyno yn
Gymraeg; fel i mae ef ei hunan yn cyfaddef mewn amryw hen gopiau ar femrwn, sydd etto i’w gweled yng Nghymru; ond ysywaith, e ddarfu iddo chwanegu amryw chwedlau at hanes Tysilio: Flamines ac Archiflamines, a phrophwydoliaeth Myrddin Emrys, a phethau eraill a fuasai harddach eu gadael heibio. Ped fuasai yn dilyn y Beirdd, e fuasai genym gywirach hanes nag sydd genym yr awron: ond fel ag i mae, ni haeddai yn gwbl mo’r gogan i mae’r Saeson, o amser Camden, yn ei rhoi iddi; o herwydd i mae Nennius, yr hwn a ysgrifennodd drychant o flynyddoedd o’i flaen, yn rhoddi yr un hanes am ein dechreuad. Ir wyf yn amcanu, os Duw a rydd im’ hoedl ac iechyd, osod allan yr awdur hwn a nodau helaeth arno, gyd ag amddiffyniad o’r hanes; o herwydd efe yw’r hanesydd hynaf a feddwn yn Lladin, oddigerth y Gildas uchod, yr hwn nid yw deilwng ei gyfrif yn hanesydd; o herwydd nid dyna ei gyngyd na’i fympwy, yn ei Epistolæ de excidio Britanniæ. Ir wyf yn methu a chaffael copi iawn o Nennius, ac ir wyf yn meddwl nad oes un yng Nghymru a dâl ddim, ond yn Hengwrt: da iawn er lles y wlad a hanesyddion Prydain, i gwnai ei berchennog adael i ryw wr dysgedig ei gymharu. I mae genyfi ddau gopi, ond i maent yn dra ammherffaith; felly hefyd i mae’r rhai printiedig, o eiddo’r Dr. Gale a Bertram. Ni wiw i Sais, na neb dieithr, bydded mor ddysgedig ag i mynno, oni ddeall ef Gymraeg yn iawn, ac oni chaiff hefyd weled ein hen ysgrifenadau a’n Beirdd ni, gytcam a’r fath waith. Nid yw Camden, er dysgedicced, diwytted, a manyled gwr ydoedd, ond ymleferydd am lawer o bethau yn ei Britannia; a hyny yn unig, o achos nad oedd yn medru yr iaith yn well. A gresyn yw, nad oedd y Saeson, y rhai oeddynt yn ddiau (rai o naddunt) yn chwilio pethau yn dêg, ac yn ddiduedd dros ben, y cyfryw ag ydoedd Leland, Usher, a Selden, yn deall ein iaith, a medru gwneuthur defnydd o’n hen lyfrau: o herwydd hyn, nid oeddynt, er cymaint eu dysg a’u dawn, ddim i’w cyffelybu ag Wmffre
Llwyd o Ddinbych, a Rhobert Fychan o’r Hengwrt, fel i mae eu gwaith yn eglur ddangos. Ac yn ddiau, mae yn ammhosibl i undyn, bydded mor gywreinied ag i myno, wneuthur dim â ffrwyth ynddo, heb gaffael gweled yr hen ysgrifenadau, sydd yn gadwedig yn llyfr-gelloedd y boneddigion yng Nghymru; yn enwedig yn Hengwrt, a Llan Fordaf. Myfi a welais, ac a gefais fenthyg amryw lyfrau o waith llaw, yn llyfrgrawn yr anrhydeddus Robert Davies, ysgr. o Lannerch yn Swydd Dinbych; a Sir Roger Mostyn yng Ngloddaith, seneddwr dros Swydd Flint; a chan yr anrhydeddus William Fychan, ysgr. o Gors y Gedol, seneddwr dros Swydd Feirionydd; yr hyn ni fedraf lai nâ’i fynegu yma yngwydd y byd, er coffau eu cymmwynas a’u hewyllys da i’n gwlad a’n iaith, ac i minnau hefyd; yn ol arfer canmoladwy, a haelioni yr hen Frython gynt.
Ond i ddyfod weithion at y Beirdd, yr rhai a adawsom ar ol. Ef a ddarfu imi gyfieithu ychydig odlau o’u gwaith, trwy annogaeth gwyr dysgedig o Loegr; ac mi a ewyllysiwn wneuthur o honof hynny er clod iddynt; ond i mae yn rhaid im’ adael hynny ym marn y darllenyddion: ac nid oes genyfi ddim i’w ddywedyd, os drwg yw’r cyfieithiad, nad arnaf i yn llwyr i mae’r bai yn sefyll; o herwydd i maent y Beirdd yn ddiammau yn orchestol odiaeth; ond i mae’n rhaid addef hefyd eu bod yn anhawdd afrifed eu deongli, o herwydd eu bod yn llawn o eiriau sydd yr awron wedi myned ar gyfrgoll: ac nid ydynt wedi eu heglurhau mewn un Geiriadur argraffedig nac ysgrifenedig a welais i. Ir oedd yr Athraw hynod o Fallwyd, yr hwn a astudiodd yr iaith er lles cyffredin y wlad, dros holl ddyddiau ei einioes, yn methu eu deongli. Ac ni wnaeth y dysgedig Mr. Edward Llwyd o’r Musæum, gamp yn y byd yn y perwyl yma, er ei fod yn gydnabyddus â holl geinciau prifiaith Prydain. Ac yn ddiau o’r achos yma, nid oedd genyfi ddim ond ymbalfalu am ystyr a synwyr y
Beirdd, mewn llawer man, oddiwrth flaen ac ol. Ir wyf yn rhyfeddu’n ddirfawr am rai o’r Cymry sydd yn haeru fod gwaith Taliesin, a’i gydoesiaid Aneurin Gwawdrydd, Llywarch Hen, a Merddin Wyllt, yn hawdd eu deall. Yn ddiau nid wyf i yn deall mo honynt, ac i mae’r rhai dysgediccaf yn yr iaith, y to heddyw, yn addef yr un peth. I mae’r Beirdd, hir oesoedd gwedi hyny, sef ar ol dyfodiad Gwilym Fasdardd, hyd farwolaeth, Llywelyn ap Gruffydd, yn dywyll iawn; fal i gellwch weled oddiwrth yr odlau sydd yn canlyn. Hyn a barodd i mi beidio â chyfieithu chwaneg o honynt y tro yma, rhag ofn imi, trwy fy anwybodaeth, wneuthur cam â hwynt. Ond gan i’r Saeson daeru, na feddwn ddim mewn prydyddiaeth a dâl ei ddangos; mi a wnaethum fy ng’orau er cyfieithu y Casgliad bychan yma, i fwrw heibio, os yw bossibl, y gogan hwnnw: ac yn ddiau, os na wyddodd genyf wneuthur hyny, i mae yn rhaid i’r Beirdd, a’m cydwladwyr, faddeu imi; a gobeithio i derbyniant fy ewyllys da, herwydd na ddichon neb wneuthur ond a allo.—Heblaw hyn oll, i mae hyn o waith yn dyfod i’r byd, mewn amser anghyfaddas i ymddangos mewn dim prydferthwch; o herwydd i mae un o drigolion yr Uch Alban, gwedi gosod allan ddau lyfr o waith Ossian; hen Fardd, meddai ef, cyn dyfod Cristianogaeth i’w plith. Ac i mae’r llyfrau hyn mewn rhagorbarch gan foneddigion dysgedig y Saeson. A rhaid addef eu bod wedi eu cyfieithu yn odidog: ond i mae arnafi ofn, wedi’r cwbl, fod yr Ysgodog yn bwrw hug ar lygaid dynion, ac nad ydynt mor hen ag i mae ef yn taeru eu bod. I mae’r Gwyddelod yn arddelw Ossian megis un o’u cydwladwyr hwynt; ac i mae amryw bethau yn y cerddi a gyhoeddwyd yn ei enw, yn dangos, yn fy nhyb i, oes ddiweddarach nag i mae’r cyfieithydd yn son am dani; yn enwedig dyfodiad Gwyr Llychlyn i’r Iwerddon, yr hyn ni ddigwyddodd, meddai hanesyddion yr Iwerddon, cyn y flwyddyn 700. Ac ni ddaeth yr Ysgodogion chwaith i sefydlu yn yr Alban, o flaen Fergus Mac Ein, ynghylch
y flwyddyn 503; fal i mae William Llwyd, Esgob Caerwrangon, wedi ei brofi yn ddiwrthadl, yn ei lyfr ynghylch llywodraeth eglwysig. Ond pei canniatteid eu bod hwy yno cyn hynny, ni fyddai hynny ronyn nes i brofi Ossian mor hyned ag i dywedir ei fod. O herwydd ped fuasai, pa fodd i mae ei gyfieithydd yn medru ei ddeongli mor hyfedr? I mae gwaith ein Beirdd ni, sydd gant o flynyddoedd ar ol hynny, tu hwnt i ddeall y gwir cywreiniaf a medrusaf yn yr hen Frutaniaith. Pwy o honom ni a gymerai’r Gododin, gwaith Aneurin Gwawdrydd, Fychdeyrn Beirdd, a’i gyfieithu mor llathraidd ag i gwnaeth cyfieithydd Ffingal a Themora? Ir wyfi yn meddwl nad oes neb a ryfygei gymmeryd y fath orchest arno. Prin iawn i medreis i ddeongli rhai pennillion o hono yma a thraw, y rhai a ellwch eu gweled yn y traethawd Lladin ynghylch y Beirdd. A gresyn yw ei fod mor dywyll, o herwydd, hyd ir wyf fi yn ei ddeall, gwaith godidog ydyw. Yr un peth a ellir ei ddywedyd am Daliesin Ben Beirdd, nid oes neb heddyw, hyd i gwn i, a fedr gyfieithu yn iawn un o’i Awdlau na’i Orchanau. Myfi a wn fod amryw Frudiau ar hyd y wlad, wedi eu tadogi ar Daliesin a Myrddyn; ond nid ydynt ond dychymygion diweddar, gwedi eu ffurfeiddio ar ol marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd. Yn enwedig yn amseroedd terfysglyd Owain Glyndwr, a’r ymdrech rhwyg pleidiau Efrog a Lancaster. I mae hefyd eraill, gwedi eu lluniaethu gan y Meneich, i atteb eu dibenion hwythau; ond i mae’r rhain oll yn hawdd eu gwahanu oddiwrth awduraidd waith Taliesin, wrth yr iaith.—I mae yn ddiammau genyf, fod y bardd yma yn odidog yn ei amser. Ir oedd yn gydnabyddus ag athrawiaith y Derwyddon am y μετεμψύχωσις, a’r Daroganau, y rhai oeddynt yn ddiammau, weddillion o’r Credo paganaidd; canys nid yw daroganu ddim arall ond mynegi pethau i ddyfod, oddiwrth y Ddar, yr hon ir oeddynt y Derwyddon yn ei pherchi yn fawr iawn. A chan ei fod ef yn wr llys, ac yn byw yn yr oes anwybodus
honno, ir oedd yr hyn a ddywedai yn cael ei dderbyn a’i roesawu gan y gwerinos, megis ped fuasai wir broffwyd. A hynny a ellir ei ddywedyd hefyd am Ferddin Emrys, a’i broffwydoliaeth. Mor anhawdd yw tynnu ofergoelion eu hynafiaid, oddiwrth un wlad neu genedl!
E ddichon rhai o honoch ysgatfydd ofyn, Paham na buaswn yn cyfieithu rhai o’r Beirdd godidog diweddar, a ysgrifenasant wedi diwygio yr hen gynghanedd? I’r rhain ir wyf yn ateb, fod y Beirdd yn amser y tywysogion yn fwy ardderchog a mawryddig yn eu gwaith; ac ir oeddynt eu hunain, rai o naddunt, yn dywysogion, ac yn wyr dyledogion; yn enwedig, Owain Cyfeiliog, tywysog Powys; a Hywel ap Owain Gwynedd, Bardd a rhyfelwr godidog: ac felly ir oeddynt yn fwy penigamp na’r Beirdd diweddar, o ran eu testunau. Canys ir oedd y Beirdd diweddar, fel i mae Sion Dafydd Rhys yn achwyn arnynt, yn gwenieithio i’r gwyr mawr, ac yn dywedyd celwydd ar eu cân; ac yn haeru iddynt dorri cestyll, lladd a llosgi, pryd ir oeddynt, eb ef, yn cysgu yn eu gwelyau, heb ddim mo’r fath feddwl nac amcan ganddynt. Eithr yn amser y tywysogion, o’r gwrthwyneb, ir oedd y Beirdd yn dystion o ddewredd a mawrfrydigrwydd eu tywysogion; ac ir oeddynt eu hunain yn filwyr glewion. Ir oedd Meilir Brydydd yn gennad dros Ruffydd ap Cynan at frenin Lloegr; ac ir oedd Gwalchmai, ei fab, yn flaenor câd ynghyffinydd Lloegr a Chymru; fel i maent ill dau yn tystiolaethu yn eu cerddi. Heblaw hyn, ir oedd y tywysogion yma yn fuddugawl yn eu rhyfeloedd â’r Saeson, ac ir oedd hynny yn peri i’r Beirdd ymorchestu, i dragywyddoli eu gweithredoedd ardderchog; ac i foli eu gwroldeb mewn achos mor glodfawr ag amddiffyn eu gwlad a’u rhyddid, yn erbyn estron genedl, a’u difuddiasei o dreftadaeth eu hynafiaid. Ir oedd y rhain yn ddiau yn destunau gwiw i Feirdd ganu arnynt, ac yn fodd cymmwys i beri i’w deiliaid eu perchi a’u hanrhydeddu; canys ir oedd y cerddi
godidog yma yn cael eu datgan gyda’r delyn, mewn cyweiriau cyfaddas, mewn gwleddau yn llys y tywysog, ac yn neuaddau y pendefigion a’r uchelwyr. I mae Giraldus yn dywedyd, fod y Cymry mor ddrud a milwraidd yn ei amser ef, ag na rusynt ymladd yn noeth ac yn ddiarfog, â’r rhai arfog, llurugog; a’r pedydd yn erbyn y marchogion. Yn ddiau nid oedd un modd a ellid ei ddychymmygu well, i gynnal yr yspryd dihafarch yma yn ein hynafiaid, na chael eu moli gan y Beirdd. Ac e wyddai’r Saeson hynny yn dda ddigon; canys ar ol darostwng Cymru tan eu llywodraeth, e ddarfu iddynt ddihenyddu’r Beirdd trwy’r holl wlad. I mae llyfrau ystatud Lloegr, yn llawn o gyfreithiau creulon i’w herbyn, ac yn gwarafun yn gaeth iddynt ymarfer o’u hen ddefodau, o glera a chymhortha. Yn amser Owain Glyndwr, i cawsant ychydig seibiant a chynhwysiad i ganu; ond gwedi hynny, hyd ddyfodiad Harri’r Seithfed, ir oeddynt tan gwmmwl. Gwedi iddo ef ddyfod i lywodraethu, ac yn amser ei fab, Harri’r Wythfed, a’r frenhines Elisabeth, y rhai a hanoeddynt o waed Cymreig, i cawsant gynhwysiadau i gynnal Eisteddfodau: ond ni pharhaodd hynny ond ennyd fechan, o herwydd bonedd Cymru a ymroisant i fod yn Saeson, fel i maent yn parhau gan mwyaf hyd y dydd heddyw.
Ond i mae rhai yn yr oes yma yn chwenychu eu cadw a’u coledd, er mwyn eu hiaith ddigymmysg, ac er mwyn gwell gwybodaeth o foesau ac ansawdd ein hynafiaid; ac er mwyn eu teilyngdod eu hunain; o herwydd i mae yn rhai o’u Hawdlau a’u Cywyddau, ymadroddion mor gywraint a naturiol ag sydd ym Mhrydyddion Groeg a Rhufain; mal i gwyr y sawl a’u deallant yn dda.—Ymysg eraill i mae Cymdeithas y Cymmrodorion, yn Llundain, yn rhoddi mawrbarch iddynt; ac yn chwenychu cadw cynnifer o’n hen ysgrifenadau ag sydd heb fyned ar goll. A da i gwneynt foneddigion Cymru, ped ymoralwent am argraffu y pethau mwyaf hynod a gwiwgof mewn prydyddiaeth,