Ego autem in Cambriae montibus degens a bibliothecis et museis procul, quod potui feci; utinam ii qui plus possint, et materiam uberiorem sunt nacti de Bardis, et caeteris Britannicae antiquitatis reliquiis, meliora cudant.

YCHYDIG
AWDLAU O WAITH YR HEN FEIRDD,
yn amser
tywysogion cymru;
WEDI EU CYFIEITHU I’R SAESONEG;

Er mwyn dangos ansawdd ein Prydyddiaeth i wyr cywraint, dysgedig, anghyfiaith: â nodau byrrion, i eglurhau enwau Dynion, a Lleoedd, a grybwyllir ynddynt; a hanes byrr o honynt, wedi ei gasglu allan o Drioedd Ynys Prydain, a hen Goffadwriaeth eraill; er dywenydd i’r oes hon, ac er adfer ei haeddedigawl barch i’r hen famiaith Gymraeg, ac i’n Gwlad; a’u dyledus glod i’w thrigolion dewrwych gynt.

Αιει τουτο Διος κόυραις μέλει, άιεν άοιδοις
Υμνειν αθανάτως, υμνειν αyαθων κλέα ανδρων.

Theocritus Idyll, xvi.

AT
RISIART MORYS, YSWAIN,
llywydd cymdeithas y cymmrodorion yn llundain;
A’I FRODYR,
LEWIS MORYS, YSWAIN, O BENBRYN,
yng ngheredigion; a
WILLIAM MORYS, O GAERGYBI, YM MON.

Ni bum yn hir yn myfyrio i bwy i cyflwynwn yr ychydig Awdlau sydd yn canlyn, canys ni adwaen i neb heddyw ag sydd yn eu deall cystal â chwi, na neb chwaith sydd yn coledd ac yn mawrhau ein iaith mor anwylgu Frutannaidd. I mae ein gwlad ni yn rhwymedig i bob un o honoch: i chwi y Llywydd, yn enwedig, am y gofal a gymmerasoch yn golygu argraffiad diweddaf y Bibl Cyssegrlan, er lles tragwyddol eneidiau ein cydwladwyr. Ef a dâl Duw i chwi am y gorchwyl elusengar yma, pan i bo’r byd hwn, a’i holl fawredd a’i wychder, wedi llwyr ddiflannu. Ac i mae’r wlad a’r iaith yn dra rhwymedig i’r Gwr o Benbryn, am gasglu cymmaint o Hanesion ynghylch ein Hynafiaid, na chlywodd y Saeson braidd son erioed am danynt. Ef a ddelwent ddilynwyr Camden, pei gwelynt fal i mae yn argyhoeddi ac yn ceryddu eu beiau, a’u tuedd gwyrgam, yn bychanu ac yn distadlu y pethau nad ydynt yn eu deall; ac o wir wenwyn yn taeru mai dychymmygion diweddar ydynt. Gobeithio i cawn ni weled y trysor mawrwerthiog yma ar gyhoedd; i beri

gosteg, ac i dorri rhwysg y cyfryw oganwyr ein hen hanesion. Nid bychan o les i mae y Gwr o Gaergybi ynteu yn ei wneuthur, trwy gasglu Gwaith yr hen Feirdd godidog gynt; ac ir wyf yn cyfaddef mai o’i lyfrau ef i cefais i y rhan fwyaf o’r odlau sydd yn canlyn. Ni fedrwn lai na dywedyd hyn am eich ewyllys da i’ch gwlad a’ch iaith; cynneddfau sydd, ysywaeth, mor brin ac anaml yn yr oes hon. Ef a ddichon hyn beri i’n gwlad agor ei llygaid, a defnyddio yn well rhagllaw yr hen ysgrifenadau sydd heb fyned ar goll. Ac os na wna hi hyny, i mae yn rhaid addef i chwi eich trioedd wneuthur eich rhan yn odiaeth. Hyn a’m hannogodd i roddi blaenffrwyth fy llafur, er nad yw ond bychan, dan eich nodded; a gobeithio nad ydyw Iwyr annheilwng i’w gyhoeddi, ag i daw rhywun cywreiniach i ddiwygio yr hyn sydd ammherffaith, ac i osod allan pethau eraill godidoccach. Nid oedd genyfi ond torri’r garw, gobeitho i daw eraill i lyfnhau a gwastattau y balciau. Yn ddiau ni fuaswn i yn cymmeryd yr orchest yma arnaf, ond darfod edliw o’r Saeson, nad oes genym ddim mewn Prydyddiaeth a dâl ei ddangos i’r byd: a bod un o drigolion yr Uch Alban gwedi cyfieithu swrn o waith hen fardd; neu yn hytrach wedi addurno a thacclu rhyw waith diweddar, a’i osod allan yn ei enw ef. Chwi a wyddoch yn dda, oddiwrth waith ein hen feirdd awduraidd ni, sydd eto i’w gweled, nad ydyw ddim tebygol fod y bardd gogleddig mor henaidd: ond nid af i i ymyrryd ag ef ym mhellach yr awron. Y mae yn ddigon genyfi roddi hyn o brawf o’n hen feirdd ein hunain i’r byd; ac os darfu i mi wneuthur cyfiawnder iddynt, dyna fi wedi cyrraedd fy amcan. Pa fodd bynnag i digwyddo, i mae’n llawen genyf gael odfa i dystiolaethu fy mod yn mawrygu yn ddirfawr eich cariad a’ch traserch chwi at eich gwlad a’ch iaith; yn yr hyn i damunwn, yn ol fy ngallu, eich canlyn; a datcan, yngwydd yr holl fyd, fy mod, frodyr haeddbarch,

Eich Gwasanaethwr rhwymedig, gostyngeiddiaf,

EVAN EVANS.

AT Y CYMRY.