VIII. PUM AWDL

I Lewelyn fab Gruffydd. Llygad Gwr ai cant.

I.

Cyfarchaf i Dduw, ddawn orfoledd,
Cynnechreu doniau, dinam fawredd,
Cynnyddu, canu, can nid rhyfedd dreth,
O draethawd gyfannedd,
I foli fy Rhi rhwyf Arllechwedd,
Rhuddfäawg freiniawg o frenhinedd,
Rhyfyg udd Caissar, treis far trossedd,
Rhuthrlym, grym Gruffydd etifedd,
Rhwysg frwysg, freisg, o freint a dewredd,
Rhudd barau o beri cochwedd,
Rhyw iddaw diriaw eraill diredd,
Rhwydd galon, golofn teyrnedd.
Nid wyf wr gwaglaw wrth y gogledd,
O Arglwydd gwladlwydd, glod edryssedd,
Nid newidiaf naf un awrwedd a neb,
Anebrwydd dangnefedd.
Llyw y sy ym ys aml anrhydedd,
Lloegr ddifa o ddifefl fonedd,
Llewelyn gelyn, galon dachwedd,
Llary wledig gwynfydig Gwynedd,
Llofrudd brwydr, Brydein gywryssedd,
Llawhir falch, gwreiddfalch gorsedd,
Llary, hylwydd, hael Arglwydd eurgledd,
Llew Cemmais, llym dreis drachywedd,

Lle bo cad fragad, friwgoch ryssedd,
Llwyr orborth hyborth heb gymwedd,
Gnaws mawrdraws am ardal dyhedd,
Gnawd iddaw dreiddiaw drwyddi berfedd,
Am i wir bydd dir or diwedd,
Amgylch Dyganwy mwyfwy i medd,
A chiliaw rhagddaw a chalanedd creu,
Ag odduch gwadneu gwaed ar ddarwedd.
Dreig Arfon arfod wythlonedd
Dragon diheufeirch heirddfeirch harddedd,
Ni chaiff Sais i drais y droedfedd oi fro,
Nid oes o Gymro i Gymrodedd.

II.

Cymmrodedd fy llyw lluoedd beri,
Nid oes rwyf eirioes, aer dyfysgu,
Cymro yw haelryw o hil Beli hir,
Yn herwydd i brofi.
Eurfudd ni oludd, olud roddi,
Aerfleidd arwreidd o Eryri,
Eryr ar geinwyr gamwri dinam,
Neud einym i foli.
Eurgorf torf tyroedd olosci,
Argae gryd, Greidiawl wrhydri,
Arwr bar, taerfar, yn torri cadau,
Cadarnfrwydr ystofi.
Aer dalmithyr, hylithr haelioni,
Arf lluoedd eurwisgoedd wisgi
Arwymp Ner, hyder, hyd Teifi feddiant,
Ni faidd neb i gospi.
Llewelyn Lloegrwys feistroli,
Llyw breiniawl, brenhinedd teithi,
Llary deyrn cedyrn, yn cadw gwesti cyrdd
Cerddorion gyflochi.
Coelfein brein Bryneich gyfogi,

Celennig branes, berthles borthi,
Ciliaw ni orug er caledi gawr,
Gwr eofn ynghyni.
Parawd fydd meddiant medd Beirdd im Rhi,
Pob cymman darogan derfi,
O Bwlffordd osgordd ysgwyd gochi hydr,
Hyd eithaf Cydweli.
Can gaffael yn dda dra heb drengi,
Gan fab Duw didwyll gymmodi,
Ys bo i ddiwedd ddawn berchi ar nef,
Ar neilliaw Crist Geli.

III.

Llyw y sy’n synhwyrfawr riydd,
Lliwgoch i lafnawr, aesawr uswydd,
Lliw deifniawg, llidiawg, lledled fydd ei blas,
Llwyr waeth yw ei gas noi garennydd.
Llewelyn gelyn, galofydd,
Llwyrgyrch darogan cymman celfydd,
Ni thyccia rhybudd hael rebydd rhagddaw,
Llaw drallaw drin wychydd.
Y gwr ai rhoddes yn rhwyf dedwydd,
Ar Wynedd arwynawl drefydd,
Ai cadarnhao, ced hylwydd yn hir,
I amddeffyn tir rhag torf oswydd.
Nid aniw, nid anhoff gynnydd,
Neud enwawg farchawg, feirch gorewydd,
I fod yn hynod hynefydd Gymro,
A’r Gymry a’u helfydd.
Ef difeiaf Naf rhy wnaeth Dofydd,
Yn y byd o bedwar defnydd,
Ef goreu riau reg ofydd a wnn,
Eryr Snawtwn aer gyfludwydd.
Cad a wnaeth, cadarn ymgerydd,
Am gyfoeth, am Gefn Gelorwydd,