Tach., 1812
GENEDIGAETH IORWERTH II.
Llais llid Iorwerth.
Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd
Ryw swn oersyn o arswyd!
Gorthaw’r donn, cerdda’n llonydd,
Ust! y ffrwd,—pa sibrwd sydd?
O Ruddlan daw’r ireiddlef
Ar ael groch yr awel gref;
Geiriau yr euog Iorwerth,
O ’stafell y Castell certh;
Bryd a chorff yn ddiorffwys,—
Hunan-ymddiddan yn ddwys:
Clywch, o’r llys mewn dyrys dôn,
Draw’n sisial deyrn y Saeson,—
“Pa uffernol gamp ffyrnig?
A pha ryw aidd dewraidd dig?
Pa wrolwymp rialyd
Sy’n greddfu trwy Gymru ’gyd?
Bloeddiant, a llefant rhag llid,
Gawrwaeddant am deg ryddid,—
‘Doed chwerwder, blinder, i blaid
Ystryw anwar estroniaid;
Ein gwlad, a’n ffel wehelyth,—
Hyd Nef,’ yw eu bonllef byth;
Ac adsain main y mynydd,—
Och o’u swn!—yn gasach sydd;
‘Ein gwlad lân amhrisiadwy,’
Er neb, yw eu hateb hwy.
“Pa les yw fod im’ glod glân
Am arswydo’r mawr Sawdan,—
Pylu asteilch Palestin,
Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;
Troi Chalon wron i weryd,
Ie, curo beilch wyr y byd,—
Os Gwalia wen,—heb bennaeth,
A’i mawrion gwiwlon yn gaeth,—
Heb fur prawf,—heb farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,—
A ymheria fy mawr-rwysg,
Heb fy nghyfri’n Rhi mewn rhwysg?
Er cweryl gyda’r cawri,
A lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na’m harfeddyd,
Ond gwatwor tra byddo’r byd.
“Ha! ymrwyfaf am ryfel,
O’m plaid llu o ddiafliaid ddêl:
Trowch ati’r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.
“I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;
Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;
Oes, gwerth, i hyn aberthaf,—gwânu hon
Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.
Dichell Iorwerth.
“Ha! ha! Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde?
Oferedd, am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,
Arw aelgerth, draw i’r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr, sef y creigiau hyll.
“Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo’n well?
Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,—
Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?
Pa gais? pa ddyfais ddifêth
Gaiff y budd,—ac â pha beth?