Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a’i fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.

Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.

Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, yn fawr ei barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd Brougham iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn 1834 cychwynodd y Cylchgrawn, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith clasurol a phur. Yr oedd y Gwladgarwr eisoes ar y maes; a digiodd Alun ei gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, am wrth-ymgais. Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor anhunangar a hael ei ysbryd, mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei fuchedd.

Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.

Eos Cymru oedd Alun,—yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei genedl.

OWEN M. EDWARDS.
Ebrill 9, 1909.

Cynhwysiad.

[Ceisiwyd trefnu’r darnau mor agos ag y gellid i’w trefn amseryddol.]

I. Y WYDDGRUG. 1797-1824.

Iddo Ef
Angau
Cymdeithas Caer
Dau Englyn Priodas
Genedigaeth Iorwerth II.
Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr
Llwydd Groeg
Eisteddfod Caerwys
Dafydd Ionawr
Gwyl Ddewi
Eisteddfod y Wydderug
Rhywun
Maes Garmon