DAFYDD IONAWR.

Englyn o fawl i’r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a’i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.

Yr Awen burwen gadd barch,—unionwyd
Gan IONAWR o’i hamharch;
Hefelydd i glaf alarch
A’i mawl yw yn ymyl arch.

GWYL DDEWI.

Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823.

Tôn,—“Ar hyd y Nos.”

Trystio arfau tros y terfyn,
Corn yn deffro cawri y dyffryn,—
Tanio celloedd—gwaed yn colli,
Yn mro Rhuthyn gynt fu’n peri
I’r ael dduo ar Wyl Ddewi,
Ar hyd y nos.

Heddyw darfu ystryw estron,
Ellyll hwyr, a chyllill hirion;
Saeson fu’n elynion inni,
Heno gwisgant genin gwisgi—
Law-law’n dawel Wyl ein Dewi,
Ar hyd y nos.

Clywch trwy Gymru’r beraidd gyngan
Rhwygo awyr â goroian—
Swn telynau—adsain llethri—
O Blumlumon i Eryri—
Gwalia ddywed—‘Daeth Gwyl Ddewi,’
Ar hyd y wlad.