Boed i’th rudd sy’n awr a’i gogwydd
At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,—
Gwisged bob lledneisrwydd llon.

Dy wefus sydd wrth ei chusanu
’N ail i rosyn teg ei liw,—
Boed i hon yn ieuanc ddysgu
Deisyf am fendithion Duw.

Na wna achos wylo defnyn
O’r llygaid ’nawr mewn cwsg sy’n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn
Os na feddi fwy i’w roi.

Dy ddwy law, sy’n awr mor dyner,
Na bo iddynt gynnyg cam;
Ond rho ’mhleth i ddweyd dy bader
Ac i ofyn bendith mam.

Na boed gwên dy wyneb tirion
Byth yn gymysg gyda thrals,
Ac na chaffo brad ddichellion
Le i lechu dan dy ais.

Na boed byth i’th draed ysgogi
Oddiar ffordd ddaionus Duw:
Er ei chau â drain a drysni—
Llwybr i’r Baradwys yw.

Boed i’th riaint fyw i’th arwain
Gam a cham ar lwybrau gwir;
Na foed arnat ras yn angen
Tra yma yn yr anial dir.

Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda’r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na’r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y “Cywydd i law merch,” ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. ‘Digon o newid arno,’ meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg Transactions of the Cymmrodorion, yn ol gyda’r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu “Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb â Lloegr.”

Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,—yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.

“RHYWUN.”