Gwelai Rhufon dirionwawr,
Ar hyn, ryw lencyn ar lawr.
Ei ddull, ei wedd, a’i ddillad,
A’i lun, oedd fel un o’r wlad.
Craffai arnaw—draw fe drodd,
A lliw egwan llewygodd;
Oherwydd y tramgwydd trwm
A ddyrysodd ei reswm;
Drwy’i galon a’i dirgeloedd,
Safai bâr,—can’s ei fab oedd;
Ei deulu o’i ddeutu ddaeth,
Gan weled ei ddygn alaeth;
Rhoent uwch ei fab, drygfab,—dro
Eu ced olaf,—cyd-wylo;
Uchel oernych alarnad
Wrth ei ddwyn fry i dŷ i dad:
(Gwyddent mai dilyn geu-dduw,
A dal dig, a gadael Duw,—
Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd,
Wnai ei ddwyn i’w ddienydd!)

Hwy ddeallent, modd hollol,
A ddwedai, ’nawr, am ddod’n ol,
Ryw ddiwrnod, a dyrnod du
Dialedd ar ei deulu.

Iddo fe gwnaed angladd fawr,
Hir wylwyd ar ei elawr:
(Mae natur bur ei bwriad
A maith ddeddf mewn mam a thad;)
Er brad, er braenaru bron
Ei rieni, rai union,—
Eto wylodd y teulu,
Am y mab, fel cynfab cu;
Ni pheidient am anffodion
A thranc gwas ieuanc, a son;
Ac a pharch gwnaent er cofthau,
Hel peraidd, lwysaidd lysiau;
Hel mwysion freila maesydd,
Hel blodau ar gangau’r gwŷdd;
Hel mawr ar lili mirain,
Hel y rhos ar ol y rhain;
Hel llawryf digoll irwedd,
Hela’r bawm i hulio’r bedd:
A dagrau rhwydd, sicrwydd serch,
Mwydent, llenwent y llannerch.

Garmon, er cof mwynlon mad,
Gweddus, o’r holl ddigwyddiad,
O fewn y tir roes faen teg,
A geiriau ar y garreg;—

“Daw hinon, er llid annuw,
I’r dyn doeth a gredo’n Duw;
A dylaeth, barn, a dolef,
I’r adyn fo’n erbyn Nef.”

ABERIW.

AT MR. E. PARRY.

Berriew, Chwef. 10, 1824.

ANWYL GYFAILL,

Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o’r mis diweddaf, a chefais Mr. Richards a’r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig. Mae yma dri o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i’r Brif Ysgol,—ni welais dri erioed mor wahanol eu hansawdd a’u tymherau i’w gilydd; ond trefnodd y Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o’r bru, a’r hon a drefnodd fy ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos gyntaf o’m hainfodiad yn eu plith. Fel hyn, y mae’r coelbren wedi syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd “dyma etifeddiaeth deg.” Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf—y llanerchau a fuont olygfeydd fy chwareuyddiaethau plentynaidd,—neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion lliosog a hawddgar,—ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma’r fan debycaf oll. Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a gysegrwyd gan ffyddlondeb. Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb ei wadu—fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais gyfeillgarwch oedd yn fêl i’m genau ac yn iechyd i’m hesgyrn. Os gwelwch chwi neb o’r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y’nghoflyfr Gwalia,—dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.