Tri pheth a dim mwy wy’n ddymuno,—
Pob bendith i Doli lle delo,—
Cael gweled ei gwedd
Nes myned i’m medd,—
A marw yn nwylo fy Noli.

YR HEN AMSER GYNT.

Bu’n hoff i mi wrth deithio ’mhell
Gael croesaw ar fy hynt;
Mil hoffach yw cael “henffych well”
Gan un fu’n gyfaill gynt.

Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd,
Yr hen amser gynt;
Cawn wydriad bach cyn canu’n iach,
Er mwyn yr amser gynt.

Yn chwareu buom lawer tro,
A’n pennau yn y gwynt;
A phleser mawr yw cadw co
O’r hyfryd amser gynt.

Er digwyddiadau fwy na rhi’,—
Er gwario llawer punt;
Er llawer coll, ni chollais i
Mo’r cof o’r amser gynt.
Tra cura calon yn fy mron,
Drwy groes neu hylon hynt,
Rhed ffrydiau serch drwy’r fynwes hon
Wrth gofio’r amser gynt.

I —

Ty anwyl ferch, delw’m serch, clyw annerch clwy enaid,
Tro’ist yn ddu’r cariad cu, a chanu’n ochenaid;
A oedd un llaw drwy’r dref draw i nharaw’n anhirion?
A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union?
Yn wir dy ŵg dagrau ddwg i’r golwg o’r galon,
Oni chaf hedd af i’m bedd i orwedd yn wirion.

P’le mae’r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl?
Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl?
P’le mae’r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd?
Torrai’n syn swyn y llyn, y delyn, a’r dolydd:
Yn iach i’th wedd, mi wela ’medd, wan agwedd yn agor;
Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor?