Pe bawn yna, anwyl faban,
Mi’th gofleidiwn gyda serch;
Ceit fy mendith am dy gusan,
Mi’th gyfrifwn fel fy merch:
Ac os try Rhaglumaeth olwyn
Fyth i’m dwyn i dir fy ngwlad,
Ti gei weled y gall rhywun
Garu ei nithoedd megis tad.
Yr wyf yn gyrru --- i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,—hyd wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir pytatws, a phesgi’r mochyn. Rhoddwch ddillad da am Ruth . . . Unwaith eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim. Gyda bendith, nid oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy nhad? A ydyw’n esmwyth? Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau—a’r ganwyll yn llosgi i’r ganwyllbren—ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros,
Eich dyledog fab,
J. BLACKWELL.
CYWYDD Y GWAHAWDD:
A anfonwyd mewn llythyr o wnhoddiad Medi 6ed, 1826, oddiwrth Ifor Ceri, at Wilym Aled a’i Gywely.
Eto, Aled, atolwg
Gad si’r dre’, a mangre mŵg;
Gad Saeson, gwawd, a sisial
Arian, a thincian, a thâl;
Gad wbwb a gwau diball
Mammon i feibion y fall:
Rho i’th law,—pryd noswyliaw sydd,
Eleni un awr lonydd;
Gwamal i ti ogymaint
Hela myrdd, a holi maint
Ydyw gwerth yr indigo,
A ffwgws, heb ddiffygio,
Gan na cheir gennych hwyrach
Weled byth un Aled bach,
Na geneth, a drin geiniog
O dyrrau llawn dy aur llog.
O fewn llong tyrd tros gefn llwyd
Y Mersey, heb ddim arswyd,—
A’th gymar sydd werth gemau
Prysurwch, deuwch eich dau
I Geri, fan hawddgaraf,
Man gwâr, lle mae hwya’r hâf:
Mor loewlon y mae’r lili
A’r rhos yn eich aros chwi,
A phleth rydd yr adar fflwch,
Hyd awyr, pan y deuwch;
Cewch eich dau wenau uniawn
Ifor a Nest, fore a nawn:
(Yma diolch raid imi
“Amen dywed gyda mi,”
Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol,
A’i wiw Nest, i Geri’n ol:)
At un Nest dda west, ddiwall,
Tyred a dy Nest arall;
Braint cyn bedd, cael medd a maeth
Maesaleg un mis helaeth;
Y mae sylwedd Maesaleg,
A’i dôr, yn y Geri deg.
Y mae un gwr mwy nag oll,
Awch digoll uwch ei degan:
Ifor bach sydd a’i ferw byth,
Drwy gofio yn dragyfyth;
“Mae’r gwr yn mhryd mebyd mau,
Enynnodd hen awenau
Y glyn, nes oedd bryn a bro,
A gwig las, yn gogleisio;
Ai pell—ai trapell y trig—y gwiwddyn
Fynnai delyn a cherdd fy Nadolig?”
Tyrd Aled, ira d’olwyn,
A thyrd i ddoldir a thwyn;
Ac awyr lem Ceri lân,
Perarogl copa’r Aran;
Gwrandaw sibrwd y ffrwd ffraw—rhwng deilfur,
Y dwr eglur yn trydar wrth dreiglaw;
Rhodio i wrando’r ehedydd,
Dringo’r bryn ar derfyn dydd;
Hufen Nest a chân Ifor,
A dŵr mad, drwy rad yr Ior,—
Wnant it’ neidio a gwisgo gwên,
Deui’n foch-goch,—doi’n fachgen.
Gan Alun, gwan wehelyth,
O fwrdd i fwrdd, wael fardd fyth,—
Gwely nid oes, nac aelwyd,
Na bir i’w gynnyg, na bwyd,—
Cei law a chalon lawen,
A mwy ni cheisi, Amen.