Mae’n Nghymru laeth a mêl,
Mae’n Nghymru fron ddi-gêl,
Mae’n Nghymru un yn brudd
O’th eisiau, nôs a dydd,—
A’i gair wrth farw fydd,
Sior anwylaf.

MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.

Lle treigla’r Caveri [{101}] yn donnau tryloewon,
Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a’r pîn
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
Lle distyll eu cangau y neithdar a’r gwîn;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A’i fron braidd rhy lawn i’w dafod lefaru,
Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:—

“Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!
Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,
A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,
Disgwyliais am haul—ond y Seren fachludodd
Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.

“Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd
I’th fynwes fendithion rhagorach nag un,
Yn ofer âg urdd bryd a phryd y’th anrhegwyd,
Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun;
Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,
A blodau amryliw yn hulio dy anial,
A nentydd yn siarad ar wely o risial,
A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.

“Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn
Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd;
Yn ofer y gwisgwyd pob dôl a phob dyffryn
A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;
Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,
A gwythi o berl i fritho dy ddaear;
Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar
Yr angrhed a’i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.

“Dy goelgrefydd greulon wna d’ardd yn anialdir,
Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham:
Pa oergri fwrlymaidd o’r Ganges [{102a}] a glywir?
Maban a foddwyd gan grefydd y fam:
Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;
O! dacw’r nen gan y goelcerth yn rhuddo,
Ac uchel glogwyni y Malwah [{102b}] ’n adseinio
Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.

“Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,
A’r aberth anfeidrol ar ael Calfari,
Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,
A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; [{102c}]
Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,
Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd
Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?—
Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. [{102d}]

“A’th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,
A’th enaid yn dân o enyniad y Nef,
Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,
Gyda’r un serch ac addfwynder ag ef;
Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,
Enillai’r digred at y groes a’r gwirionedd,
Llonyddai’r gydwybod mewn nefol drugaredd;—
Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.

“Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,
Cyfrenit elfennau danteithion y nen;
Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,
A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen;
Doe y datgenit fod Nef i’r trallodus—
Heddyw ffraethineb sy’ fud ar dy wefus—
Ehedaist o’r ddaear heb wasgfa ofidus,
I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. [{103a}]