Pa sawl bron a oerodd yma?
Pa sawl llygad ga’dd ei gloi?
Pa sawl un sydd yn y gladdfa,
A’r cof o honynt wedi ffoi?
Pa sawl gwaith, ar wawr a gosber
Swniai’r gloch ar hyd y glyn?
Pa sawl Ave, cred a phader,
Dd’wedwyd rhwng y muriau hyn?

Ar y gareg sydd gyferbyn,
A faluriwyd gan yr hin,
Tybiaf weld, o flaen ei eilun,
Ryw bererin ar ei lin;
Tybiaf fod y mwg o’r thuser
Eto’n codi’n golofn wen,
A bod swn yr organ seinber
Eto yn dadseinio’r nen.

Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell
Lle cartrefai’r anthem gynt;
Nid oes yma, o gor i gangell,
Un erddygan, ond y gwynt.—
Felly darffo pob coel-grefydd,
Crymed byd ger bron y Gwir;
Hedd a chariad, ar eu cynnydd,
Fo’n teyrnasu tros y tir.

CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.

Gorffwys donn, dylifa’n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio,
Pa’m y byddi di yn effro?
Dwndwr daear sydd yn darfod,—
Cysga dithau ar dy dywod.

Gorffwys for! mae ar dy lasdon
Un yn dwyn serchiadau ’nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur;
Bydd dda wrtho, for diddarfod,
Cysga’n dawel ar dy dywod.

Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;
A pha esgus iti ffromi?
Nid oes gwynt ym mrig y llwyni:
Tyrd a bad fy ngwr i’r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.

Iawn i wraig yw teimlo pryder
Pan bo’i gwr ar gefn y dyfnder;
Ond os cyffry dig dy donnau,
Pwy a ddirnad ei theimladau?
O bydd dirion wrth fy mhriod,—
Cysga’n dawel ar dy dywod.

Byddar ydwyt i fy ymbil,
For didostur, ddofn dy grombil;
Trof at Un a all dy farchog
Pan bo’th donnau yn gynddeiriog;
Cymer Ef fy ngwr i’w gysgod,
A gwna di’n dawel ar dy dywod.