[{102a}] Ganges—prif afon India—gwrthddrych addoliad y Brahminiaid. Cyffredin ydyw i wragedd daflu eu mabanod i’w thonnau er mwyn boddio y duw Himalaya, a elwir yn Dad y Ganges.

[{102b}] Y Malwah.—Rhes o fynyddoedd uchel yng nghanol Hindostan. Nid yw cyngor na cherydd Prydeiniaid yn gallu rhwystro yr arfer greulon gynhwynol o losgi gweddwon byw gyda’u gwyr meirw.

[{102c}] Nid anghyffelyb Hindostan i drionglyn, Coromandel, Tickree, a Bengal, ydynt y conglau.

[{102d}] Tybir bod tua 40,000 o Gristionogion, ond bod mwy na’u hanner yn Babyddion, yn y Carnatic. Nid yw prin werth crybwyll mai un o hil dyscyblion Swartz, cenadwr enwog tua chan’ mlynedd yn ol, ydyw yr Hindoo a ddychymyga yr Alarnad.

[{103a}] Angeu disyfyd a gymerodd Heber ymaith tra y mwynhai drochfa dwymn. Y dydd o’r blaen—y Sabbath—cyflawnai ddyledswyddau ei daith esgobawl.

[{103b}] Juggernaut—un o eilunod pennaf Hindostan. Ar ei gylchwyl llusgir ef ar gert enfawr i ymweled â’i hafoty. Ymdafla miloedd o’i addolwyr dan ei olwynion trymion, ac yno y llethir hwynt.

[{104a}] Gauts—mynyddoedd uchel wrth Travancore, penrhyn deheuol.—Himalaya, mynyddoedd uwch, wrth Cashgur, penrhyn gogleddol Hindostan.

[{104b}] Llwyni Academus. Nid oes ond a wypo a ddichon ddychymygu y parch a dalwyd yn Rhydychen i Heber, ar parch a delir eto i’w enw. Yno y daeth gyntaf i wydd yr oes drwy ei Balestine, a gyfieithwyd i’r Gymraeg mor ardaerchog gan yr unig wr cyfaddas i’r gorchwyl—yr enwocaf Gymro, Dr. Pughe.

[{105}] Hodnet—yn Amwythig—yno y cyflawnai Heber swydd Bugail Cristionogol yn ddifefl hyd ei symudiad i India.