Vo-lun-ta-ri-ly, yn ewyllysgar
APPENDIX.
ENGLISH-WELSH DIALOGUES.
ATTODIAD.
CYDYMDDYDDANION SAESNEG A CHYMRAEG.
APPENDIX.
| CONVERSATIONS, &c. | YMDDYDDANION, &c. |
| Good morning to you. | Boreu da i chwi. |
| Good morning, sir. | Boreu da, syr. |
| It is fine weather. | Mae hi yn dywydd braf. |
| Delightful, after the rain we have had. | Hyfryd ar ol y gwlaw a gawsom. |
| Will you come for a walk to the country? | A ddeuwch chwi i roi tro ir wlad? |
| I will with pleasure. | Deuaf gyd a phleser. |
| Which way shall we go? | Pa ffordd yr awn i? |
| Suppose we go along the road, and return through the fields | Beth ped aem ar hyd y ffordd, a dychwelyd drwy y caeau. |
| Very well; let us start then. | O'r goreu; gadewch i ni gychwyn ynte! |
| What o'clock is it now? | Beth yw hi o'r gloch yn awr? |
| Half-past ten. | Hanner awr wedi deg. |
| We must manage to be back by noon. | Rhaid i ni ymorol bod yn ol erbyn hanner dydd. |
| Then we had better not go far. | Gwell ynte i ni beidio myned yn mhell. |
| Where does this road lead to? | I ba le mae y ffordd hon yn arwain? |
| To a village about two miles off. | I bentref oddeutu dwy filltir oddi yma. |
| The country air is very healthy. | Y mae awyr y wlad yn bur iachus. |
| It is, and does one much good. | Ydyw, ac yn gwneud lles mawr i un. |
| Do you know anything of this neighbourhood? | A wyddoch chwi rywbeth am y gymmydogaeth hon. |
| Yes, a little. | Gwn, ychydig. |
| Who lives in that mansion? | Pwy sydd yn byw yn y plas yna? |
| An independent gentleman. | Gwr boneddig yn byw ar ei arian. |
| He is a man of property, I presume. | Y mae yn wr o gyfoeth feddyliwn |
| He is; and most of the farmers about here are his tenants. | Ydyw; ái dyddynwyr ef ydyw y rhan fwyaf ó'r ffermwyr oddeutu yma. |
| Another pretty residence; who lives here? | Dyma dŷ hardd arall; pwy sydd yn byw yma? |
| The clergyman of the parish; an esteemed man, and a good friend to the poor. | Offeiriad y plwyf; gwr parchus, a chyfaill da ir tlawd. |
| I begin to feel the heat of the sun. | Yr wyf yn dechreu teimlo gwres yr haul. |
| It does get warm: but we shall have a fine shade presently. | Y mae hi yn gwresogi; ond ni a gawn gysgod hyfryd yn fuan. |
| What is it I see beyond the bridge yonder? | Beth wyf yn weled tu draw ír bont acw? |
| The wind-mill. | Y felin wynt. |
| I see the spire of a church; I suppose this is the village. | Yr wyf yn gweled clochdy eglwys, hwn yw y pentref debygwn. |
| It is; and the building on the left is the school-house. | Ië; ár adeilad ár yr ochr aswy yw yr ysgoldy. |
| Is the church-yard worth visiting? | A ydyw y fynwent yn werth ymweled a hi? |
| Yes; but we cannot stop. | Ydyw, ond nis gallwn aros. |
| Must we go over that hill on our return? | A raid i ni fyned dros y bryn yna ár ein dychweliad? |
| No; we can take the fields along the river side. | Na raid; gallwn gymmeryd y caeau efo ochr yr afon. |
| Is there a footpath that way? | A oes llwybr troed y ffordd hono? |
| There is, and a very pleasant one too. | Oes, ac un hyfryd iawn hefyd. |
| Do we go over this stile? | A ydym yn myned dros y gamfa yma? |
| To save that trouble the gate can be opened. | I arbed y drafferth hono, gellir agor y llidiart. |
| What a fine crop of hay there is in this meadow. | Y fath gnwd da o wair sydd yn y weirglodd yma. |
| Capital; and very soon it will be ready for cutting. | Rhagorol; ac, yn bur fuan, bydd yn barod íw dorí. |
| What grows in the field adjoining? | Beth sydd yn tyfu yn y cae nesaf? |
| Wheat, I should think. | Gwenith, mi feddyliwn. |
| Is it not barley? | Ai nid haidd ydyw? |
| No; but there is a part of it oats. | Nage; ond y mae rhan o hono yn geirch. |
| Is that a potatoe field beyond it? | Ai cae cloron yw hwna, tu draw iddo? |
| Yes, and a part of it set for turnips. | Ië, a rhan o hono wedi ei osod i faip. |
| Are much beans and peas raised about here? | A godir llawer o ffa a phys oddeutu yma? |
| Yes, and cabbage too. | Gwneir, a bresych hefyd. |
| We must walk quicker, or we shall have a shower. | Rhaid i ni gerdded yn gyflymach, onide ni a gawn gawod. |
| Did you hear the thunder last night? | A glywsoch chwi y taranau neithiwr? |
| I did not, but fancied I saw lightning. | Naddo; ond tybiais i mi weled mellt. |
| It hailed about midnight. | Yr oedd yn bwrw cenllysg tua hanner nos. |
| A few days ago there was snow upon the mountains. | Ychydig ddyddiau yn ol yr oedd eira ar y mynyddoedd. |
| So I have heard, and that it was freezing hard at night. | Felly y clywais, ai bod hi yn rhewi yn galed y nos. |
| Well, we are back by the time we said. | Wel, dyma ni yn ol erbyn yr amser y dywedasom. |
| Yes, to the minute. | Ië, í'r fynud. |
| When shall we go again? | Pa bryd y cawn i fyned eto? |
| Any day next week, except Tuesday. | Rhyw ddiwrnod yr wythnos nesaf oddi eithr Dydd Mawrth. |
| Let me know on Monday evening, if you please. | Gadewch i mi wybod nos Llun os gwelwch yn dda? |
| I will, if possible. | Os yn alluadwy, mi wnaf. |
| This is my nearest way; so good bye for the present. | Dyma 'r ffordd agosaf i mi; felly da y bo chwi yn awr. |
| Good bye, sir, and thank you for your company. | Da y bo chwi, syr, a diolch i chwi am eich cwmni. |
| MEAT AND DRINK, &c. | BWYD A DIOD, &c. |
| I want my breakfast. | Mae arnaf eisiau fy moreufwyd. |
| What would you like to have, sir? | Beth a ewyllysiech ei gael, syr? |
| Make me a cup of tea. | Gwnewch i mi gwpaned o De. |
| I am not fond of coffee. | Nid wyf yn hoff o goffi. |
| I like coffee better than tea. | Gwell genyf i goffi, na the. |
| Coffee does not agree with me. | Nid yw coffi yn dygymmod a mi. |
| Fetch a pound of sugar. | Ewch i nol pwys o siwgr. |
| Where from? | O ba le? |
| From the corner shop. | O siop y gongl. |
| Have you any cream? | A oes genych hufen? |
| No; but I have some new milk. | Nac oes, ond mae genyf laeth newydd ei odro. |
| Cut some bread and butter. | Torwch fara ac ymenyn. |
| Will you have some toasted bread? | A fynwch chwi fara wedi ei grasu? |
| Yes, and a little cheese. | Cymeraf, ac ychdig o gaws. |
| Are there any cakes sold here? | A oes teisenau ár werth yma? |
| Yes, but I never buy any. | Oes, ond nid wyf byth yn prynu rhai. |
| Are you fond of oat-meal cakes? | A ydych yn hoff o fara ceirch? |
| I am. | Ydwyf. |
| But wheaten bread is the best. | Ond bara gwenith ydyw 'r goreu. |
| Some prefer rye bread. | Mae 'n well gan rai fara rhyg. |
| It does not agree with me. | Nid ydyw yn dygymmod a mi. |
| Nor with me. | Na chyda minnau. |
| Is it dinner time? | A ydyw yn amser ciniaw? |
| Yes, this half hour. | Ydyw er's hanner awr. |
| I thought so. | Yr oeddwn yn meddwl hyny. |
| Is dinner ready? | A ydyw y ciniaw yn barod? |
| Yes, sir, it is. | Ydyw, syr, y mae. |
| I feel very hungry; do you? | Yr wyf yn teimlo yn dra newynog, a ydych chwi? |
| No, sir, I have no appetite. | Nac ydwyf, nid oes arnaf chwant bwyd. |
| What is the cause of it? | Beth ydyw yr achos o hyny? |
| I do not know, sir. | Nid wyf yn gwybod, syr. |
| What is for dinner to-day? | Beth sydd i giniaw heddyw? |
| There is roasted meat. | Mae yma gig rhost. |
| Is it beef? | Ai cig eidion ydyw? |
| No; it is veal. | Nage; cig llo ydyw. |
| Is it the loin? | Ai y lwyn ydyw? |
| No; it is the shoulder. | Nage; yr ysbawd ydyw. |
| There is also a loin of mutton. | Mae yma hefyd lwyn o gig mollt. |
| Is it roasted or boiled? | Pa un ai rhostedig ai berwedig? |
| Roasted, sir. | Rhostedig, syr. |
| I thought you had some lamb. | Tybiais fod genych gig oen. |
| No, I failed to go to market in time. | Nag oes, methais a myned ir farchnad mewn pryd. |
| Have you any boiled meat? | A oes genych gig berw? |
| There is a leg of veal. | Mae yma goes o gig llo. |
| Bring the bacon here. | Deuwch á'r cig moch yma. |
| Who is fond of venison? | Pwy sydd yn hoff o hydd-gig? |
| I am very fond of it. | Yr wyf i yn bur hoff o hono. |
| May I cut some for you? | A gaf fi dori peth i chwi? |
| A little, if you please. | Ychydig os gwelwch yn dda. |
| Have you any fowls? | A oes genych ddim adar? |
| Yes, I have a brace of partridges. | Oes, mae genyf gwpl o betris. |
| Is that a pigeon pie? | Ai pastai golomenod yw hona? |
| No; it is an eel pie. | Nage, pastai llyswod ydyw. |
| Perhaps you would have preferred the duck. | Feallai y buasech yn dewis yr hwyaden. |
| I am very fond of duck and green peas. | Yr wyf yn bur hoff o hwyaden a phys gleision. |
| I am glad to hear; for there are plenty of them to-day. | Mae yn dda genyf glywed, oblegid y mae yma ddigonedd heddyw. |
| Will you take turnips or carrots? | A gymmerwch chwi faip neu foron? |
| Not any, thank you, I am satisfied. | Dim, diolchi chwi, yr ydwyf wedi fy nigoni. |
| Bring the cheese on the table. | Deuwch ar caws ar y bwrdd. |
| May I cut you some? | A gaf i dori peth i chwi? |
| A small piece, if you please. | Ychydig os gwelwch yn dda. |
| What will you drink? | Beth a wnewch chwi ei yfed? |
| A glass of water. | Gwydriad o ddwfr. |
| Draw a quart of ale. | Gollyngwch chwart o gwrw. |
| This is too sweet. | Mae hwn yn rhy felys. |
| Draw a pint from the other barrel. | Gollyngwch beint o'r faril arall. |
| This is too bitter. | Mae hwn yn rhy chwerw. |
| Mix them together. | Cymmysgwch hwy ynghyd. |
| It is much better now. | Y mae yn llawer gwell yn awr. |
| Yes, sir, it is. | Ydyw, syr, y mae. |
| When was this brewed? | Pa bryd y darllawyd hwn? |
| Last October. | Yn Hydref diweddaf. |
| Old ale does not agree with me. | Nid ydyw hen gwrw yn dygymmod a mi. |
| But fresh ale does. | Ond y mae cwrw newydd. |
| I prefer old ale. | Mae yn well genyf i hen gwrw. |
| Take a glass of wine with me. | Cymmerwch wydriad o win gyd a mi. |
| Which? port or sherry? | Pa un? ai gwin coch, ai gwin gwyn? |
| Whichever you please to take. | Yr un a weloch chwi yn dda iw gymmeryd. |
| Allow me to give you another glass. | Gadewch i mi roddi i chwi wydriad arall. |
| Not any more, thank you. | Dim yn rhagor, diolch i chwi. |
| Let us now walk in the garden. | Gadewch i ni yn awr, rodio yn yr ardd. |
| What is the size of your garden? | Beth ydyw maint eich gardd? |
| It is nearly two acres. | Mae yn agos i ddwy erw. |
| Is it a fruitful garden? | A ydyw yn ardd ffrwythlawn? |
| The best in this part of the country. | Yr oreu yn y rhan yma ó'r wlad. |
| Have you many trees in it? | A oes genych lawer o goed ynddi? |
| Yes, a great many apple trees. | Oes, lawer o goed afalau. |
| What would you like to have for supper? | Beth a ddymunech gael i swper? |
| Bread and cheese. | Bara a chaws. |
| Doctors do not recommend much supper. | Nid ydyw meddygon yn cymmeradwyo llawer o swper. |
| Take some cold meat. | Cymmerwch gig oer. |
| Not any, thank you. | Dim diolch i chwi. |
| What will you drink? | Pa beth a yfwch chwi? |
| A glass of small beer. | Gwydriad o ddiod fain. |
| Take a glass of brandy. | Gymmerwch wydriad o frandi. |
| I do not drink spirits. | Nid wyf yn yfed gwirod. |
| Will you dine with me to-morrow? | A giniawch chwi gyd a mi y fory? |
| I am sorry to say, I cannot. | Mae yn ddrwg genyf ddweud nas gallaf. |
| Why? what is the cause? | Paham? beth ydyw yr achos? |
| I must go to Shrewsbury to-morrow to meet my brother. | Rhaid i mi fyned ir Amwythig y fory i gyfarfod fy mrawd. |
| Is he coming home? | A ydyw ef yn dyfod adre. |
| Yes, for a short time. | Ydyw am yehydig amser. |
| It is time to go to rest. | Mae hi yn bryd myned i orphwys. |
| It is, I am getting sleepy. | Ydyw y mae, yr wyf yn myned yn gysglyd. |
| Good night, sir. | Nos da i chwi, syr. |
| SALUTATIONS, &c. | CYFARCHIADAU, &c. |
| Good afternoon, sir. | Prydnhawn da, syr. |
| How are you to-day? | Sut yr ydych chwi heddyw? |
| I am very well, thank you. | Yr wyf yn bur iach, diolch i chwi. |
| How are the wife and children? | Pa fodd mae 'r wraig a 'r plant? |
| They are all very well. | Maent oll yn bur iach. |
| Is your family well? | A ydyw eich teulu chwi yn iach? |
| They are all well except the youngest child? | Maent oll yn iach, oddi eithr y plentyn ieuengaf. |
| What ails him? | Beth sydd yn ei flino. |
| The measles. | Y frech goch. |
| How is your mother? | Sut y mae eich mam? |
| She is pretty well considering her age. | Mae hi yn lled dda, ac ystyried ei hoed. |
| How old is she? | Pa mor hen yw hi? |
| She is eighty since Christmas. | Mae hi yn bedwar ugain er Nadolig. |
| Is your father still living? | A ydyw eich tad yn fyw eto? |
| No, he died last March. | Nag ydyw, bu farw yn mis Mawrth diweddaf. |
| Was he long ill? | A fu efe yn hir yn sal? |
| Yes, about two years. | Do, oddeutu dwy flynedd. |
| You have had a great loss. | Chwi a gawsoch golled fawr. |
| Yes; but mother has had a greater loss. | Do, ond fy mam a gafodd fwy o golled. |
| Where was your father buried? | Yn mha le y claddwyd eich tad? |
| He was buried at Wrexham. | Claddwyd ef yn Ngwrecsam. |
| What was his age? | Beth oed ei oedran? |
| Ninety. | Pedwar ugain a deg. |
| He was very old. | Yr oedd yn bur hen. |
| How are you this morning, sir? | Sut yr ydych chwi heddyw boreu, syr? |
| I am not well; neither have I been well some time. | Nid wyf yn iach, ac nid wyf wedi bod yn iach er's peth amser. |
| I am sorry to hear that. | Mae'n ddrwg genyf glywed hyny. |
| Where is your pain? | Yn mha le mae eich poen? |
| In my head. | Yn fy mhen. |
| Have you been with a medical man? | A fuoch chwi gyd a meddyg? |
| Yes; but the medicine does me no good. | Do, ond nid ydyw y cyffyriau yn gwneuthwr daioni i mi. |
| Perhaps the doctor does not understand your complaint. | Feallai nad ydyw y meddyg yn deall eich afiechyd. |
| Perhaps so. | Feallai hyny. |
| You had better try another. | Gwell fyddai i chwi dreio un arall. |
| I intend to do so next week. | Bwriadwyf wneud felly yr wythnos nesaf. |
| Where are you going to-day? | I ba le yr ydych yn myned heddyw? |
| I am going to Holyhead. | Yr wyf yn myned i Gaergybi. |
| Will you go with me? | A ewch chwi gyd a mi? |
| Yes, if you will stop until four o'clock. | Deuaf, os arhoswch tan bedwar o'r gloch. |
| Can't you go sooner? | Oni ellwch chwi fyned yn gynt? |
| No; I want to see my sister. | Na allaf, mae arnaf eisiau gweled fy chwaer. |
| Very well, call at the Harp Inn. | Or goreu, gelwch yn Ngwesty'r Delyn. |
| Where were you yesterday? | Pa le yr oeddych chwi ddoe? |
| At Chester. | Yn Nghaer. |
| What news from there? | Pa newydd oddi yno? |
| Nothing at all of importance. | Dim yn y byd o bwys. |
| Did you see my brother there? | A welsoch chwi fy mrawd yno? |
| Yes, I saw him at a distance; he was very busy. | Do, gwelais ef o bell; yr oedd yn bur brysur. |
| I expect him home next week. | Yr wyf yn ei ddysgwil adre yr wythnos nesaf. |
| Not to stay at home. | Nid i aros gartref. |
| No, only for a fortnight. | Nage, dim ond am bythefnos. |
| Is he in a good situation? | A ydyw ef mewn sefyllfa dda? |
| Yes, a very good one. | Ydyw, un dda iawn. |
| Have you much to do at Holyhead this afternoon? | A oes genych lawer i wneud yn Nghaergybi heddyw prydnhawn? |
| No, but little. | Nac oes, ond ychydig. |
| Have you finished, sir? | A orphenasoch chwi, syr? |
| Yes; but we must have a glass or two of ale. | Do, ond rhaid i ni gael gwydriad neu ddau o gwrw. |
| Where shall we go to get it? | I ba le yr awn iw geisio? |
| To the King's Head. | I ben y Brenin. |
| What sort of people are they? | Pa fath bobl ydynt? |
| They are very kind people. | Maent yn bobl garedig iawn. |
| Who is that person, going by? | Pwy yw y person yna sy'n myned heibio? |
| I do not know him. | Nid wyf yn ei adnabod ef. |
| I am now for going home. | Yr wyf yn awr am fyned adre. |
| It is time for us to go. | Mae yn amser i ni fyned. |
| Yes, it is. | Ydyw y mae. |
| Thank you for your company. | Diolch i chwi am eich cwmni. |
| You are welcome; don't mention it. | Mae i chwi groesaw, tewch a son. |
| My compliments to your brother. | Fy moesau at eich brawd. |
| Good bye, sir. | Da y bo chwi, syr. |
| EMPLOYMENTS, &c. | GORUCHWYLION, &c. |
| What is your occupation? | Beth yw eich galwedigaeth chwi? |
| I was brought up an attorney. | Fe'm dygwyd i fynu yn wr y gyfraith. |
| Where is your office? | Pa le mae eich swyddfa? |
| In Castle Street. | Yn Heol y Castell. |
| When will the assize be? | Pa bryd y bydd y Frawdlys? |
| Between Epiphany and Easter. | Rhwng yr Ystwyll a'r Pasc. |
| Do you get enough of employment? | A ydych chwi yn cael digon o waith? |
| Yes, and I have three apprentices. | Ydwyf, ac y mae genyf dri o egwyddor weision. |
| I am glad to hear. | Mae'n dda genyf glywed. |
| What is your father's calling? | Beth ydyw galwedigaeth eich tad? |
| He is an engineer. | Peirianwr yw efe. |
| How old is he now? | Beth ydyw ei oed yn awr? |
| He is about fifty. | Y mae oddeutu deg a deugain. |
| Have you any brothers? | A oes genych chwi frodyr? |
| Yes, I have six. | Oes, mae genyf chwech. |
| What are they doing? | Pa beth maent hwy yn ei wneuthur? |
| They are all with my father, except one. | Maent oll gyda fy nhad oddi eithr un. |
| What is he doing? | Pa beth mae e yn ei wneud? |
| He is with my uncle, farming. | Mae gyd a fy ewythr, yn amaethu. |
| What was your grandfather's occupation? | Beth oedd galwedigaeth eich taid? |
| He was a clergyman. | Yr oedd yn offeiriad. |
| Who is that gentleman? | Pwy yw'r boneddwr yna? |
| The village doctor. | Meddyg y pentref. |
| Is there much sickness in this neighbourhood now? | A oes llawer o afiechyd yn y gymmydogaeth yma yn awr? |
| No, sir, but very little. | Nac oes, syr, ond ychydig iawn. |
| Where is the doctor going? | Pa le mae'r meddyg yn myned? |
| To visit the sick. | I ymweled a'r cleifion. |
| Who is at the door? | Pwy sydd wrth y drws? |
| He is a commercial man. | Masnachwr yw efe. |
| Where from? | O ba le? |
| From Cardiff. | O Gaerdydd. |
| Has he a son a woollen-draper? | A oes ganddo fab yn frethynwr? |
| Yes, and one a linen-draper. | Oes, ac un yn lieiniwr. |
| Where at? | Yn mha le? |
| Somewhere near London. | Yn rhyw le yn agos i Lundain. |
| Of what trade is your brother Thomas? | Beth ydyw creft eich brawd Thomas? |
| He is a stonemason. | Saer maen yw efe. |
| What trade does David follow? | Pa gelfyddyd mae Dafydd yn ei ddilyn? |
| He is a weaver. | Gwehydd yw efe. |
| And what is William? | A pheth yw Gwilym? |
| He is a shoemaker. | Crydd yw efe. |
| His uncle was a tailor. | Yr oedd ei ewythr yn deiliwr. |
| What is your employment? | Beth ydyw eich gwaith chwi? |
| I am a farmer. | Amaethwr ydwyf fi. |
| How large is your farm? | Pa mor fawr ydyw eich tyddyn? |
| Six score acres. | Chwech ugain cyfar. |
| How many cows do you keep? | Pa nifer o fuchod a gedwch? |
| Fifteen generally. | Pymtheg yn gyffredin. |
| How many horses? | Faint o geffylau? |
| Three, and a young colt. | Tri ac ebol ieuangc. |
| And what number of sheep? | A pha nifer o ddefaid? |
| About thirty. | Oddeutu deg a'r hugain. |
| What sort of land is your farm? | Pa fath dir yw eich tyddyn? |
| A part of it is meadow land. | Mae rhan o hono yn weirglodd-dir. |
| And part of it is pasture. | Ac y mae rhan o hono yn borfa. |
| And another part is woodland. | A rhan arall yn goedtir. |
| But the greatest part is arable. | Ond y mae y rhan fwyaf yn aradwy. |
| Have you done ploughing? | A ddarfu chwi aredig? |
| Yes, the men are harrowing. | Do, mae'r dynion yn llyfnu. |
| Have you done sowing wheat? | A ddarfu chwi hau gwenith? |
| Yes, and have finished harrowing. | Do, ac wedi gorphen llyfnu. |
| Harvest will be early this year. | Bydd yn gynhauaf cynar eleni. |
| Yes, it will; for the wheat is nearly ripe now. | Bydd, mae'r gwenith yn agos yn addfed yn awr. |
| Have you commenced reaping? | A ddarfu chwi ddechreu medi? |
| Yes, I have three men reaping to-day. | Do, mae genyf dri o ddynion yn medi heddyw. |
| Do you intend to reap the barley and oats? | A ydych yn bwriadu medi'r haidd a'r ceirch? |
| No, I intend cutting them with a scythe. | Na, yr wyf yn meddwl eu tori a'r bladur. |
| Have you had your harvest? | A gawsoch chwi y cynhauaf? |
| Yes, except the oats. | Do, oddi eithr y ceirch. |
| Have you had yours? | A gawsoch chwi yr eiddoch? |
| Yes, a week ago. | Do, er's wythnos. |
| My servant is thrashing barley. | Mae fy ngwas yn dyrnu haidd. |
| How much do you get for the barley? | Faint ydych yn ei gael am yr haidd? |
| Two pounds a quarter. | Dwy bunt y peg. |
| I am going to winnow oats to-morrow. | Yr wyf yn myned i nithio ceirch y fory. |
| What do you get for the oats? | Beth ydych yn ei gael am y ceirch? |
| Twenty-two shillings. | Dau swllt a'r hugain. |
| What is the price of the wheat in this neighbourhood? | Beth ydyw pris y gwenith yn y gymmydogaeth hon? |
| Three pounds ten. | Tair a chweigen. |
| Thomas, go and dig potatoes for dinner. | Thomas, ewch i godi cloron i giniaw. |
| What potatoes am I to dig up to-day? | Pa gloron sydd i mi godi heddyw? |
| The white potatoes. | Y cloron gwynion. |
| Must I bring turnips and carrots? | A raid i mi ddwyn maip a moron? |
| Yes, bring a few. | Deuwch, ac ychydig. |
| Turn the pigs to their sties. | Trowch y moch iw citiau. |
| What for? | I ba beth. |
| That they may eat the swedes. | Fel y gallont fwyta y Rhwdins. |
| I have done. | Yr ydwyf wedi gwneud. |
| Gather the sheep into the fold. | Heliwch y defaid i'r gorlan. |
| I want to mark some of them. | Mae arnaf eisiau nodi rhai o honynt. |
| Have you shorn the lambs? | A ddarfu chwi gneifio yr wyn? |
| No, but will next week. | Na ddo, ond mi wnaf yr wythnos nesaf. |
| It is time to tie the cattle. | Mae hi yn bryd rhwymo 'r gwartheg. |
| I will immediately. | Mi a wnaf yn ebrwydd. |