Nis gwn i yn hollol ai glanwedd ai hyllig,
Ag sydd i laweroedd yn gwneuthur doluriad,
Ar bawb yn goncwerwr, a’i enw yw Cariad.
Yr ifanc yn awchus wna daro fynycha’,
A’i saeth trwy ei asen mewn modd truenusa’;
Ond weithiau a’i fwa fe ddwg yn o fuan
O dan ei lywodraeth y rhai canol oedran.
Weithiau mae’n taro yn lled annaturiol,
Nes byddant yn babwyr yn wir yr hen bobl,
Mi glywais am rywun a gas yn aflawen