Y bendro’n ei wegil yn ol pedwar ugain.

A thyma’r creadur trwy’r byd wrth garwyro

A d’rawodd y ddeu-ddyn wyf trostynt yn teithio,

I hel eich cynorthwy a’ch nodded i’w nerthu,

Yn ol a gewch chwithau pan ddel hwn i’ch brathu.

Ymdrechwch i ddala i fyny yn ddilys,

Bawb oll yr hen gystwm, nid yw yn rhy gostus—

Sef rhoddi rhyw sylltach, rai ‘nol eu cysylltu,

Fe fydd y gwyr ifainc yn foddgar o’u meddu.

Can’ brynu rhyw bethau yn nghyd gan obeithio