Here follows, in Mr. Hughes’ own Welsh, a remarkable story of revenge exacted by the fairies:—

Yn un o’r canrifoeđ a aethant heibio, preswyliai amaethwr yn nhyđyn Pantannas, a’r amser hwnnw yr oeđ bendith y mamau yn ymwelwyr aml ag amryw gaeau perthynol iđo ef, a theimlai yntau gryn gasineb yn ei fynwes at yr ‘atras fwstrog, leisiog, a chynỻwynig,’ fel y galwai hwynt, a mynych yr hiraethai am aỻu dyfod o hyd i ryw lwybr er cael eu gwared ođiyno. O’r diweđ hysbyswyd ef gan hen reibwraig, fod y fforđ i gael eu gwared yn đigon hawđ, ac ond iđo ef rođi godro un hwyr a boreu iđi hi, yr hysbysai y fforđ iđo gyrraeđ yr hyn a fawr đymunai. Bođlonođ i’w thelerau a derbyniođ yntau y cyfarwyđyd, yr hyn ydoeđ fel y canlyn:—Ei fod i aredig yr hoỻ gaeau i ba rai yr oeđ eu hoff ymgyrchfan, ac ond iđynt hwy unwaith goỻi y ton glas, y digient, ac na đeuent byth mwy i’w boeni drwy eu hymweliadau a’r ỻe.

Dilynođ yr amaethwr ei chyfarwyđyd i’r ỻythyren, a choronwyd ei waith a ỻwyđiant. Nid oeđ yr un o honynt i’w weled ođeutu y caeau yn awr; ac yn ỻe sain eu caniadau soniarus, a glywid bob amser yn dyrchu o Waen y Rhos, nid oeđ dim ond y distawrwyđ trylwyraf yn teyrnasu o gylch eu hen a’u hoff ymgyrchfan.

Hauođ yr amaethwr wenith, &c., yn y caeau, ac yr oeđ y gwanwyn gwyrđlas wedi gwthio y gauaf ođiar ei seđ, ac ymđangosai y maesyđ yn arđerchog yn eu ỻifrai gwyrđleision a gwanwynol.

Ond un prydnawn, ar ol i’r haul ymgilio i yst feỻoeđ y gorỻewin, tra yr oeđ amaethwr Pantannas yn dychwelyd tua ei gartref cyfarfyđwyd ag ef gan fod bychan ar ffurf dyn, yn gwisgo hugan goch; a phan đaeth gyferbyn ag ef dadweiniođ ei gleđ bychan, gan gyfeirio ei flaen at yr amaethwr, a dywedyd,

Dial a đaw,

Y mae gerỻaw.

Ceisiođ yr amaethwr chwerthin, ond yr oeđ rhywbeth yn edrychiad sarrug a ỻym y gwr bychan ag a barođ iđo deimlo yn hynod o annymunol.

Ychydig o nosweithiau yn điweđarach, pan oeđ y teulu ar ymneiỻduo i’w gorphwysleoeđ, dychrynwyd hwy yn fawr iawn gan drwst, fel pe byđai y ty yn syrthio i lawr bendramwnwgl, ac yn union ar ol i’r twrf beidio, clywent y geiriau bygythiol a ganlyn—a dim yn rhagor—yn cael eu parablu yn uchel,

Daw dial.